Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon, mae ein swyddogion wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ac yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth ledled Gwent, ac yn trafod yr effaith y mae ASB yn ei chael ar gymunedau.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw ymddygiad gan berson sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid.
Mae tri chategori sylfaenol o ASB:
Edrychwch ar yr hyn y mae ein swyddogion wedi bod yn ei wneud:
🏡 Ymunodd swyddogion Casnewydd â phartneriaid o Gartrefi Dinas Casnewydd yn ystad yr Old Barn i sgwrsio ag aelodau'r gymuned am broblemau yn eu hardal, ac i gasglu sbwriel.
👮♀️ Bu swyddogion cymorth cymunedol Cwmbrân yn cynnal patrolau yng nghanol y dref gyda staff o Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân.
🤩 Aeth tîm plismona cymdogaeth Rhisga i Grŵp Sgowtiaid Abercarn.
🏫 Aeth swyddogion Caerffili i ffair ysgol flynyddol Ysgol Gynradd Trinant.
👮♂️ Ymunodd swyddogion Betws â Chartrefi Dinas Casnewydd ar gyfer patrolau ar y cyd, ymweliadau â chartrefi, a thrafodaethau ynghylch ASB a phryderon am dipio anghyfreithlon yn yr ardal.
🗣️ Aeth tîm Tŷ Du i ffair yrfaoedd yn ysgol gynradd High Cross i drafod rolau swyddogion cymorth cymunedol a swyddogion heddlu.
⚽ Aeth swyddogion y Pil i Sgwâr John Frost, Dyffryn, a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda phlant o’r Clwb Ieuenctid sy’n cael ei gynnal gan Dyffryn Community Link.
🔥 Mae'r tîm troseddau gwledig wedi bod allan yn targedu ardaloedd lle ceir problemau ASB yng nghefn gwlad Gwent sydd wedi eu heffeithio gan broblemau fel tipio anghyfreithlon, tanau gwair, a beicio oddi ar y ffordd.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ymgyrch genedlaethol sy'n canolbwyntio ar themâu allweddol bob dydd. Y thema ar gyfer y flwyddyn hon yw:
Os yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnoch chi, rhowch wybod amdano.
Gallwch wneud hyn trwy ffonio 101, anfon neges atom ar Facebook neu Twitter, neu ein system adrodd ar-lein.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.