Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Parhaodd gwaith ein timau i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol diwedd yr wythnos ddiwethaf ac ar y penwythnos. Dyma rywfaint o'r gwaith a wnaethant...
- Patrolau ar y cyd ym Metws gyda Thîm Gorfodi Sifil Cyngor Casnewydd.
- Ymunodd swyddogion Casnewydd gyda wardeiniaid y cyngor i siarad â seiclwyr a oedd yn teithio yn yr ardaloedd i gerddwyr yn y ddinas. Cafodd 44 ohonynt eu stopio a gofynnwyd iddyn nhw ddod oddi ar eu beiciau.
- Roedd y fan gemau yn llwyddiant ysgubol ym mharc Maesycwmer a pharc Morgan Jones - mae'r fan yn rhoi cyfle i ni siarad â phlant (a'u rhieni) am ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw drafod unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw.
- Gwnaethom ymweld ag Academi Pobl Ifanc Ringland i siarad â phobl ifanc 16/17 oed am ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i ganlyniadau a'u cyfrifoldebau nhw wrth reidio beiciau a sgwteri trydan.
- Gwnaethom siarad â swyddogion y dyfodol yn ffair gyrfaoedd Ysgol Gynradd High Cross.
- Cafodd plant Ysgol Gynradd Glasllwch gyfle i weld y tu mewn i gar heddlu pan aethom ni draw i'w ffair haf nhw.
- Aeth swyddogion i weld canolfannau henoed yng Nghaerffili i siarad â'r trigolion ac i gynnig cyngor atal trosedd.
Efallai bod yr ymgyrch penodol yma wedi gorffen yn awr ond mae ein gwaith ni i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chodi ymwybyddiaeth o'i effaith yn parhau.
Mae ein timau ar grwydr yn eich ardal chi i fynd i'r afael â'r problemau mwyaf pwysig i chi. Os ydych chi'n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, siaradwch â ni, neu riportiwch y mater:
Ffoniwch ni - 101.
Anfonwch neges uniongyrchol atom ni.
Defnyddiwch ein system riportio ar-lein: https://www.gwent.police.uk/ro/report/asb/asb-v3/report-antisocial-behaviour/?utm_source=Facebook&utm_medium=social&utm_campaign=Orlo&utm_content=ASB+awareness+week