Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tŷ yng Nghasnewydd wedi cael ei gau ar ôl cais llwyddiannus am orchymyn cau yn Llys Ynadon Casnewydd.
Caniatawyd y gorchymyn cau am dri mis ddydd Mercher 19 Gorffennaf ar gyfer cyfeiriad yn Trinity Place, yn dilyn nifer o gŵynion am ddefnyddio cyffuriau anghyfreithiol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr adeilad.
Bydd yr heddlu’n gallu arestio unrhyw un sy’n ceisio mynd i mewn i’r adeilad yn groes i’r gorchymyn yn ystod y cyfnod o dri mis.
Meddai Cwnstabl Heddlu Claire Drayton, Swyddog Lleihau Trosedd ac Anhrefn Pilgwenlli, said:
“Rydyn ni wedi derbyn nifer o alwadau gan y gymuned am ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau mewn cysylltiad â’r cyfeiriad yma ym Mhilgwenlli.
“Mae’r ymddygiad yma’n cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd trigolion ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymunedau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gorchymyn yma’n sicrhau trigolion os oes ganddyn nhw bryderon ynghylch adeiladau sy’n peri problem, gallant riportio’r mater a byddwn yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid i gymryd camau gweithredu.
“Mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth gennym ni a gofynnaf yn daer ar unrhyw un ag unrhyw bryderon i gysylltu”
Yn ystod cyfnod y gorchymyn, sy’n dod i ben ym mis Hydref 2023, gall unrhyw un sy’n ceisio mynd i mewn i’r adeilad yn groes i’r gorchymyn gael ei arestio.
Sut i riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol?
📞 ffonio 101
💻 ar-lein ar http://orlo.uk/hkPwl
📲 anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter
Ydych chi wedi cael eich effeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae cymorth ar gael trwy Connect Gwent 📞 0300 123 21 33 neu ewch i 💻 www.connectgwent.org.uk.