Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Helo bawb,
Hoffwn gyflwyno fy hun fel Arolygydd newydd Dwyrain Casnewydd. Rwy’n falch iawn i fod yn gweithio yn yr ardal ac rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl yn barod yn ystod y cyfnod byr rwyf wedi bod yma. Rwyf wedi gweithio fel Arolygydd yn ein dalfa yn y gorffennol a chyn hynny treuliais lawer o flynyddoedd yn rhan o dimau plismona cymdogaeth ar draws Casnewydd a Sir Fynwy. Rwyf yn arwain tîm ymroddedig iawn o ringylliaid, swyddogion heddlu a swyddogion cefnogi cymuned ac roeddwn eisiau rhannu rhai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw’n ddiweddar gyda chi...
Yn ystod y mis diwethaf rydyn ni wedi cynnal tri ymgyrch beicio oddi ar y ffordd ym Maendy, Alway a Ringland ac wedi atafaelu pum beic. Mae beiciau oddi ar y ffordd yn gallu bod yn beryglus ac yn wrthgymdeithasol ac rydyn ni’n gyfarwydd â’r effaith negyddol maen nhw’n ei chael ar gymunedau. Bydd mwy o ddiwrnodau gorfodi’n digwydd yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi rhoi dau orchymyn gwasgaru ar waith mewn ardaloedd sy’n profi cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwnaethom arestio dau o bobl sy’n dwyn o siopau’n fynych a oedd yn targedu siopau yn Caerleon Road a Chepstow Road. Maen nhw yn y carchar yn awr.
Rydym wedi llwyddo i sicrhau gorchymyn cau llawn ar gyfer eiddo ar Corporation Road a gorchymyn rhannol ar gyfer eiddo ar Windsor Road yn dilyn cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Os ydych chi’n profi unrhyw broblemau yn eich cymdogaeth chi, cysylltwch â ni er mwyn i ni gymryd camau priodol.
Gwnaethom gymryd rhan mewn ymgyrch ym Maendy gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch. Stopiwyd nifer o gerbydau a rhoddwyd cyngor i’r gyrwyr. Mae peidio â gwisgo gwregys yn un o’r pump marwol; un o’r pum prif ffactor sy’n achosi gwrthdrawiadau traffig ffyrdd difrifol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo eich un chi.
Yn ddiweddar gwnaethom gwrdd ag asiantaethau partner yn Ringland, gan gynnwys Tai Dinas Casnewydd, Cyngor Dinas Casnewydd a’r ysgolion lleol. Aethom am dro o gwmpas yr ardal i siarad â thrigolion lleol, gwrando ar eu pryderon a nodi unrhyw broblemau. Gwnaethom nodi graffiti, goleuo gwael, sbwriel a cherbydau wedi cael eu gadael ac mae gennym ni gynlluniau ar waith i ddelio gyda’r rhain yn awr.
Mae aelodau’r tîm wedi cymryd rhan yn Wythnos Diogelwch Plant yn Ysgol Gynradd Glan Llyn, ochr yn ochr â chymdeithasau tai lleol. Maen nhw wedi cyflwyno sesiynau am seiberddiogelwch, cynnal cystadlaethau ar y thema diogelwch cymunedol ac maen nhw hyd yn oed wedi cael ymweliad gan ein cŵn heddlu!
Mae ein tîm wrthi’n ymweld â chartrefi yn Alway ar hyn o bryd, yn dosbarthu pecynnau atal trosedd sy’n cynnwys goleuadau diogelwch, deunyddiau marcio eiddo a chloeon. Mae profiad yn dangos bod defnyddio’r eitemau yma’n gallu arwain at lai o fyrgleriaethau a lladradau. Gofynnwn i chi ddefnyddio cynnwys eich pecyn yn eich cartref.
I gloi, mae’n bwysig iawn i mi ein bod yn clywed yn uniongyrchol gennych chi beth rydych chi’n credu yw’r blaenoriaethau plismona lle rydych chi’n byw. Mae fy nhîm allan yn y gymuned cymaint â phosibl er mwyn gallu clywed eich barn chi. Mae gennym ni ddigonedd o ffyrdd i geisio datrys problemau a byddwn yn cymryd camau pwrpasol ble a phryd bynnag y bo angen.
Dros fisoedd yr haf byddwn yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bennaf. Byddaf yn rhannu mwy o wybodaeth gyda chi am hynny yn fy mlog nesaf. Tan hynny, dilynwch ni ar @GPNewport i weld y newyddion diweddaraf ac i gael gwybod pryd bydd cymorthfeydd yr heddlu yn eich ardal chi.
Diolch am ddarllen,
Arolygydd Roland Giles