Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Helo bawb,
Yn gyntaf, hoffwn gyflwyno fy hun. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn fy adnabod i, fy enw yw Mervyn Priest. Ar ôl gweithio fel rhingyll yn yr ardal am y ddwy flynedd diwethaf, dechreuais fy rôl fel Arolygydd ym Mhilgwenlli yn ddiweddar.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf rwyf wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned leol a sefydliadau partner ac rwy’n edrych ymlaen at barhau’r berthynas yma, ac at adeiladu ar y llwyddiannau rydym wedi eu cael hyd yn hyn.
Fel bob amser, mae ein tîm plismona cymdogaeth wedi bod yn gweithio’n galed i ganolbwyntio ar y materion sydd o bwys i chi. Dyma rai enghreifftiau o’n gweithgareddau a’n canlyniadau diweddar...
Fel rhan o’n gwaith i fynd i’r afael â throseddau cyffuriau yn yr ardal gweithredwyd gwarant dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau mewn adeilad yn Trinity Place. Arestiwyd dyn 25 oed ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant gyda bwriad o gyflenwi. Mae ar fechnïaeth yr heddlu ar hyn o bryd tra bod ymholiadau pellach yn mynd rhagddynt.
Rydyn ni wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn dilyn adroddiadau am droseddau’n ymwneud â cherbydau yn yr ardal. I ddechrau, arestiwyd menyw leol 35 oed ar amheuaeth o ddwyn o gar wedi parcio ar Commercial Street. Mae’r ymchwiliad hwn yn dal i fynd rhagddo. Yn ail, arestiwyd a chyhuddwyd menyw 36 oed o Gasnewydd o ladrad a lladrad o gerbydau modur a derbyniodd ddedfryd o garchar am 16 wythnos. Rydyn ni’n dal i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn y tîm Dangos y Drws i Drosedd i dargedu’r troseddau hyn trwy ddefnyddio ceir rhwydo (‘trap cars’) ac i gynnig cyngor atal trosedd i helpu i gadw eich cerbydau a’ch eiddo’n ddiogel.
Mae ein gwaith gydag asiantaethau partner i adnabod a chefnogi oedolion agored i niwed ac oedolion sy’n cael eu hecsbloetio’n rhywiol yn yr ardal yn parhau ac rydym wedi arestio a chyhuddo dau ddyn o lithio (‘soliciting’); dyn 42 oed o Gaerdydd a dyn 46 oed o Wigan.
Efallai eich bod chi wedi ein gweld ni ar batrôl yn yr ardal gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae’r patrolau yma’n ein helpu ni i adnabod a dileu targedau tanau bwriadol a difrod troseddol posibl, yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd gennych chi o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymdogaeth. Yn ddiweddar gwnaethom gau eiddo ar Adeline Street ar ôl adroddiadau gan drigolion am dresmasu a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
Mae bron i ddwy flynedd ers dechrau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ym Mhilgwenlli. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i blismona hyn ac i roi sylw i ymddygiad rydych chi wedi dweud wrthym ni sy’n achosi pryder i chi. Hyd yn hyn eleni mae 35 rhybudd wedi cael eu cyhoeddi am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol yn yr ardal.
Mae swyddogion cefnogi cymuned yn parhau i gryfhau’r cysylltiadau sydd gennym ni gyda phobl ifanc yn yr ardal drwy wahanol ffyrdd. Er enghraifft, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda’r Gymdeithas Yemenïaidd i gynnig gweithgareddau dargyfeiriol yn y Football Factory, gan roi cyfle i blant hŷn sgwrsio gyda nhw mewn lleoliad anffurfiol. Mae hyn yn ein galluogi ni i feithrin cysylltiadau ac ymddiriedaeth. Maen nhw wedi gweithio’n agos gydag Ysgol Gynradd Pilgwenlli hefyd trwy’r cynllun Heddlu Bach.
Rydyn ni’n cadw cysylltiad agos a rheolaidd gyda’n trigolion mwy oedrannus / agored i niwed hefyd. Mae swyddogion yn ymweld yn aml â’r rheini sy’n cael eu cyfeirio atom ni i sicrhau eu bod nhw’n ddiogel ac iach ac nad ydyn nhw’n dioddef cam-fanteisio neu gamdriniaeth mewn unrhyw ffordd. Os ydych chi’n gwybod am gymydog neu aelod teulu a allai elwa ar y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni.
I gloi, hoffwn eich atgoffa chi ein bod ni’n cynnal cymorthfeydd wythnosol sydd ar agor i bawb. Mae’r cyfarfodydd yma’n gyfle i chi drafod unrhyw broblemau neu bryderon sydd gennych chi. Rydyn ni’n awyddus i wneud iddyn nhw weithio i chi felly rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â phryd a lle maen nhw’n cael eu cynnal.
Mae manylion y cyfarfod nesaf a newyddion arall y tîm ar Twitter @GPNewport.
Os hoffech chi gysylltu â mi’n uniongyrchol, e-bostiwch [email protected]
Diolch yn fawr.
Arolygydd Mervyn Priest