Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Drwy gydol mis Mehefin, cymerodd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ran mewn cyfnod dwysáu wedi’i gynllunio i darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol (OCG) drwy ddileu ffynhonnell allweddol o'u refeniw a dal llawer o'r rhai sy’n rhan ohonynt ar yr un pryd, gan ddiogelu'r rhai hynny sy'n cael eu hecsbloetio, a chynyddu cudd-wybodaeth.
Cafodd rhwydweithiau troseddol sy'n ymwneud â gwerthu cyffuriau, troseddau mewnfudo a gwyngalchu arian eu targedu gan yr heddlu ac asiantaethau partner fel rhan o Ymgyrch Mille, pan wnaeth heddluoedd ganolbwyntio adnoddau ar fynd i’r afael â thyfu canabis ar raddfa fawr – ffynhonnell allweddol o incwm anghyfreithlon ar gyfer gangiau cyfundrefnol.
Tarian, yr uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol (ROCU) fu’n cydlynu’r gweithgarwch yn ne Cymru.
Yn ystod y mis, ar draws y tri llu heddlu sy'n gwasanaethu de Cymru, sef Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed Powys, cyflawnwyd y canlynol:
Mae'r cysylltiadau rhwng troseddau difrifol a'r rhai sy'n ymwneud â thyfu canabis yn glir, gyda'r fasnach gyffuriau yn hybu trais gan gangiau wrth i grwpiau gystadlu am diriogaeth a cheisio mynd ar drywydd eu cystadleuwyr.
Dywedodd Wendy Gunney, prif gwnstabl cynorthwyol Tarian ROCU:
"Mae'r uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol ar gyfer de Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r rhwydwaith plismona cenedlaethol i dargedu a tharfu ar gynhyrchu canabis cyfundrefnol yn ein rhanbarth."
"Mae'r math hwn o droseddoldeb yn cael effaith niweidiol iawn ar ein cymunedau, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gydweithio â phartneriaid gorfodi'r gyfraith ac asiantaethau allanol i darfu ar droseddwyr."
"Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o ymdrechion ein rhanbarth ar Ymgyrch Mille; mae eu penderfyniad a'u cadernid wedi arwain at ein canlyniadau llwyddiannus. Rydym hefyd wedi casglu llawer iawn o ddata a fydd yn helpu i ganolbwyntio ein hymdrechion yn y dyfodol i ymdrin â Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol a diogelu'r rhai sydd â'r risg fwyaf o niwed."
Mae ffatrïoedd canabis hefyd yn fygythiad lleol gwirioneddol. Mae maint 'ffatrïoedd’ canabis troseddol yn golygu bod difrod yn aml yn cael ei achosi i'r eiddo ei hunain; gall yr adeiladau fod yn beryglus o ganlyniad i risgiau tân, defnyddio trydan yn anghyfreithlon, mygdarth a difrod dŵr.
Dyma rai arwyddion allweddol sy’n dangos y gallai eiddo fod yn cael ei ddefnyddio fel ffatri canabis:
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am ffatri ganabis bosibl neu werthu cyffuriau gysylltu â'u heddlu lleol ar-lein neu drwy 101.
Gall pobl hefyd gysylltu â Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 neu crimestoppers-uk.org.