Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu gyrrwr beic modur a fu farw ar yr A468 ger Bedwas, wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud ei fod ‘yn annwyl gan bawb oedd yn ei adnabod’.
Galwyd swyddogion i leoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd am 5.50pm ddydd Gwener 7 Gorffennaf rhwng dau feic modur a char.
Aeth personél o Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r lleoliad hefyd a chadarnhaodd parafeddygon fod dyn 60 oed o Gaerffili wedi marw yn y fan a’r lle.
Ei enw oedd Darrel King ac mae ei deulu’n parhau i gael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae ei deulu wedi talu’r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Darrel yn fab, tad, ewythr a thad-cu bendigedig a oedd yn caru bywyd ac yn annwyl gan bawb oedd yn ei adnabod.
“Fel teulu mae ei farwolaeth sydyn a thrasig wedi torri ein calonnau a byddwn yn ei golli bob dydd.
“Hoffem gymryd y cyfle yma i ddiolch i’r bobl a stopiodd i gynnig cymorth ac i’r holl wasanaethau brys am eu hymdrechion ac am bopeth a wnaethant iddo.”
Cafodd dyn 70 oed o ardal Caerffili ei drosglwyddo o Ysbyty Athrofaol Cymru i ysbyty arall am driniaeth ac mae mewn cyflwr sefydlog.
Rydyn ni’n parhau i apelio am dystion a hoffai swyddogion siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar yr A468 - rhwng cylchfan Cedar Tree a Bedwas - rhwng 5.30pm a 6.30pm ddydd Gwener 7 Gorffennaf.
Gofynnir i unrhyw un â lluniau CCTV neu gamera car gysylltu â ni hefyd drwy ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2300225926.