Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carl Williams makes Wales Online's Pinc List
Llongyfarchiadau i Brif Uwch-arolygydd Carl Williams am gyrraedd y Rhestr Binc eleni a chael ei gydnabod gan Wales Online fel “un i’w wylio”.
Dyma’r nawfed Rhestr Binc i gael ei chyhoeddi. Mae’r rhestr yn cael cefnogaeth gan Pride Cymru ac mae’n cydnabod pobl LHDT+ yng Nghymru sydd wedi gwneud pethau eithriadol i’r gymuned.
Carl yw un o’r swyddogion heddlu LHDTQ+ o’r rheng uchaf yng Nghymru, ac ymhell cyn iddo ymuno â ni yma yng Ngwent dechreuodd y rhwydwaith staff LHD cyntaf yn Heddlu Dyfed Powys yn 2009, tair blynedd ar ôl ymuno.
Mae Carl yn aelod gweithredol o Rwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru ac mae’n arwain y cynllun Cynghreiriaid y mae dros 200 o bobl wedi ymuno ag ef ac wedi ymroi i wrando ar gydweithwyr LHDTQ+, yn ogystal ag eirioli ar eu rhan a dysgu ganddyn nhw.
Meddai Carl;
“Fel aelod balch o’r gymuned LHDTQ+ rwy’n ddiolchgar iawn i gael fy nghynnwys ar y Rhestr Binc eleni.
“Rwyf wedi ymroi i gryfhau cynrychiolaeth LHDTQ+ mewn plismona a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith a’r mentrau parhaus sydd gennym ni i gefnogi pobl LHDTQ+ sy’n byw a gweithio yn ardal Heddlu Gwent. Mae hyn yn cynnwys ein swyddogion a’n staff ein hunain.
“Mae’n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i helpu pobl i ddeall ein cymuned, a’r profiadau mae pobl yn eu hwynebu, yn well. Er ein bod ni wedi gweld cynnydd da iawn yn y blynyddoedd diweddar, mae mwy o gefnogaeth a chydnabyddiaeth o’r gymuned a’i hanghenion yn hollbwysig os ydym am fod yn wirioneddol gynrychioliadol o’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu”.
“Byddaf yn parhau i eirioli ar ran cydweithwyr a chymunedau LHDTQ+ ledled Cymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u gwerthfawrogi.”
Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn a dysgu mwy am y bobl eraill ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd y rhestr yma.