Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi darparu diweddariad ar ei ymchwiliad i weithredoedd yr heddlu yn dilyn yr adroddiadau am bobl ar goll mewn cysylltiad â phump o bobl y daethpwyd o hyd iddyn nhw gyda char yn ddiweddarach oddi ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, Caerdydd.
Yn anffodus bu farw Eve Smith, Darcy Ross, a Rafel Jeanne yn y gwrthdrawiad traffig ffyrdd a chafodd Sophie Russon a Shane Loughlin eu hanafu’n ddifrifol.
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Hobrough:
‘’Rydyn ni’n dal i feddwl am deulu a ffrindiau Darcy, Eve a Rafel a fu farw’n drychinebus y noson honno, yn ogystal â Sophie a Shane a’u hanwyliaid.
“Rydyn ni’n deall pa mor hanfodol fydd canfyddiadau’r ymchwiliad yma i’r unigolion a’r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn, ac i’r gymuned ehangach.
“Mae’r IOPC wedi arwain yr ymchwiliad hwn, ac rydym yn ddiolchgar am y diweddariad yma ac am ei ymateb prydlon a thrwyadl i fater mor gymhleth.
“Byddwn yn parhau i gydweithio gyda’i ymchwiliad mewn ffordd agored a thryloyw.”