Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn o Ferthyr Tudful, a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Tredomen, wedi cyhoeddi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel rhywun ‘annwyl gan bawb’ a rhywun y ‘bydd colled fawr ar ei ôl’.
Cawsom adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A472, tua 2.20pm dydd Mawrth 6 Mehefin.
Aeth swyddogion i’r safle, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Un fan oedd yn y gwrthdrawiad - Ford Transit gwyn – a chyhoeddodd parafeddygon bod y gyrrwr wedi marw yn y fan a’r lle.
Enw’r gyrrwr oedd Darran Medd, 56 o Ferthyr Tudful; mae ei deulu agosaf yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae ei deulu wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol iddo:
“Cafodd ein tad, tad-cu, mab, brawd a ffrind annwyl, Darran, ei gymryd oddi wrthym ni’n drasig ac yn llawer rhy fuan.
“Fel teulu rydym yn hynod o ddiolchgar am yr holl garedigrwydd a geiriau cefnogol rydym wedi eu derbyn.
“Roedd Darran yn annwyl gan bawb a bydd colled fawr ar ei ôl.
“Hoffem ddiolch i’r gwasanaethau brys ac aelodau’r cyhoedd am eu hymdrechion ar y diwrnod hwnnw.”
Mae swyddogion sy’n ymchwilio eisiau siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A472, ger Tredomen rhwng 2.10pm a 2.20pm.
Gofynnir i unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar yr A472, ger Tredomen rhwng 2.10pm a 2.20pm dydd Mawrth 6 Mehefin, neu unrhyw un â lluniau camera car neu CCTV, gysylltu â ni.
Gallwch ffonio 101, gan grybwyll rhif cofnod 2300185054, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol.