Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos yma, mae ein tîm Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol (RPSO) yn cefnogi ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd sy'n pwysleisio pwysigrwydd gwisgo gwregysau diogelwch.
Bydd yr ymgyrch, syn cael ei redeg gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a'r Rhwydwaith Plismona Ffyrdd Ewropeaidd (ROADPOL), yn canolbwyntio ar bobl sydd ddim yn gwisgo gwregys ac sy'n eu defnyddio nhw'n amhriodol mewn cerbydau - mae hwn yn un o'r pum trosedd marwol.
Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o beryglon peidio â gwisgo gwregys diogelwch a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Gwent.
Yn seiliedig ar wybodaeth gan Think!:
- mewn gwrthdrawiad, rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o farw os nad ydych chi'n gwisgo gwregys
- gyrwyr a theithwyr 17 i 34 oed yw'r rhai mwyaf tebygol o beidio â gwisgo gwregys
- y grŵp oedran uchod sydd â'r gyfradd damweiniau uchaf yn y DU hefyd
- mae pobl yn llai tebygol o wisgo gwregys ar siwrnai fer neu gyfarwydd, sy'n eu rhoi nhw mewn perygl difrifol o anaf os byddant mewn gwrthdrawiad.
Meddai Rhingyll Gareth Williams, sy'n arwain yr ymgyrch yma:
"Mae gwisgo gwregys diogelwch yn gywir yn bwysig er mwyn cadw pawb yn y cerbyd yn ddiogel os ydyn nhw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd.
"Trwy gydol yr ymgyrch yma, gallwch ddisgwyl gweld ein swyddogion RPSO yn cynnal mwy o batrolau er mwyn canfod troseddwyr, rhannu gwybodaeth gyda nhw a, ble y bo'n briodol, eu riportio nhw.
"Ychydig iawn o resymau sydd yna pam nad oes angen i unigolyn wisgo gwregys, a dylai unrhyw un sydd wedi'i eithrio sicrhau bod ganddyn nhw'r dogfennau cywir gyda nhw bob amser.
"Rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o farw os nad ydych chi'n gwisgo gwregys, felly mae'r neges yn glir: gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo eich gwregys yn gywir, gallai achub eich bywyd."
Yn ystod yr wythnos:
- bydd swyddogion RPSO yn cynnal mwy o batrolau i ddod o hyd i droseddwyr
- bydd unedau camerâu diogelwch yn cynorthwyo swyddogion
- bydd troseddwyr yn derbyn adroddiadau trosedd traffig ac yn cael eu riportio
- gall gyrwyr ifanc gael eu cyfeirio at wasanaethau ieuenctid ar gyfer rhaglen addysg.
Bydd unrhyw oedolyn sy'n cael ei ganfod ddim yn gwisgo gwregys yn wynebu dirwy o £100 ac adroddiad trosedd traffig neu bydd yn cael dewis mynd ar gwrs diogelwch. Os yw'r mater yn mynd i'r llys, mae'r troseddwr yn wynebu dirwy o £500.
Gyrwyr cerbyd sy'n gyfrifol am unrhyw un dan 14 oed yn gwisgo gwregys - bydd gyrwyr yn derbyn dirwy o £100 ac adroddiad trosedd traffig os bydd plentyn yn cael ei ganfod ddim yn gwisgo gwregys.
Mae'r neges yn glir: gwisgwch wregys bob tro, 'dyw e' byth werth y risg.