Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd marwol ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, Caerdydd.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i gerbyd Volkswagen Tiguan am 12.15am ddydd Llun 6ed Mawrth ar ôl i hofrennydd yr heddlu, swyddogion heddlu a swyddogion tân gael eu galw i’r lleoliad.
Mae teuluoedd Rafel Jeanne, Darcy Ross ac Eve Smith, a fu farw yn y gwrthdrawiad, yn dal i gael cymorth gan swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol.
Mae dau o bobl eraill yn dal mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yn dilyn ymchwiliadau dechreuol yr heddlu i’r gwrthdrawiad, gallwn gadarnhau’r canlynol:
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Hoborough o Heddlu Gwent:
“Mae hon yn sefyllfa eithriadol o drist ac estynnwn ein cydymdeimlad i deuluoedd a ffrindiau pob un o’r bobl ifanc. Byddwn yn parhau i gefnogi’r ymchwiliad hwn a gofynnwn i aelodau’r cyhoedd beidio â gwagddyfalu yn ystod y cyfnod hwn.”
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jason Davies o Heddlu De Cymru:
“Cydymdeimlwn â’r teuluoedd a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn. Mae swyddogion arbenigol yn cynnal ymchwiliad manwl i geisio darganfod beth sydd wedi digwydd. Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol yn rhoi cymorth i’r teuluoedd ar yr adeg anodd ofnadwy yma iddyn nhw.”
Mae Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi cyfeirio’r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, fel sy’n arferol yn yr amgylchiadau hyn.