Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Arestiwyd dwy fenyw, un 20 oed o Gasnewydd ac un 20 oed o Gaerloyw, a dau ddyn, un 46 oed o Gasnewydd ac un 53 oed o Gaerdydd, ar amheuaeth o droseddau cam-fanteisio’n rhywiol ar blant.
Meddai Ditectif Ringyll Michael Patterson, swyddog yn yr achos:
"Gweithredwyd y warant hon yn rhan o ymchwiliad parhaus i gam-fanteisio rhywiol ar blant yng Ngwent.
"Mae troseddwyr yn cam-fanteisio ar bobl ifanc, agored i niwed, trwy orfodi, dylanwadu a meithrin perthnasau amhriodol â nhw, er mwyn eu cael nhw i gyflawni gweithgareddau rhywiol neu droseddol ar eu rhan.
" Mae achosion sy’n ymwneud â cham-fanteisio ar blant yn eithriadol o ddifrifol ac maen nhw’n cael effaith emosiynol enfawr, nid yn unig ar y dioddefwyr, ond ar deuluoedd cyfan, a’r cymunedau lle mae’r cam-fanteisio yn digwydd.
"Rydyn ni’n deall bod pobl eisiau amddiffyn plant, a dylai unrhyw aelod o’r cyhoedd gyda gwybodaeth am gam-fanteisio ar blentyn gysylltu â ni er mwyn i ni ymchwilio a dwyn pobl o flaen eu gwell.”
💻 Os oes gan unrhyw un bryderon, ffoniwch 101 i riportio’r mater, neu anfonwch e-bost at CEOP.
🆘 Os ydych chi’n credu bod plentyn mewn perygl o niwed ar unwaith, ffoniwch 999 bob tro.