Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Gorffennaf 2022, llwyddodd Heddlu Gwent i sicrhau bron i £750,000 gan gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref.
Ers hynny, mae'r heddlu wedi defnyddio'r cyllid ychwanegol yma ar brosiectau i fynd i'r afael â throseddau yn y gymdogaeth fel byrgleriaeth, dwyn a lladrad, yn ogystal ag ymgyrchoedd wedi'u cynllunio i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn rhan o'r gwaith yma mae swyddogion wedi dosbarthu offer atal trosedd am ddim i drigolion a busnesau, a chodi ymwybyddiaeth o'r camau diogelu y gall pawb ohonom eu cymryd i rwystro lladron posibl ac atal trosedd.
Mae camau atal trosedd o'r fath yn eithriadol o effeithiol, ac mae'r heddlu'n dal i ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu er mwyn codi ymwybyddiaeth, dwyn cymunedau at ei gilydd a gwneud y strydoedd yn fwy diogel i bawb.
Mae un rhan o'r gwaith hwn yn cael ei ddarparu gan Natalie Lang, cydgysylltydd Gwarchod Cymdogaeth y mae ei swydd yn cael ei hariannu gan arian Strydoedd Saffach.
Cawsom sgwrs gyda Natalie am ei rôl newydd, sut mae Gwarchod Cymdogaeth yn gweithio a sut gall trigolion gymryd rhan.
Natalie, diolch am ymuno â ni heddiw. Allwch chi ddweud ychydig wrthym ni amdanoch chi a'r cynllun Gwarchod Cymdogaeth yng Ngwent?
Natalie:
Yn flaenorol, roeddwn i’n swyddog cefnogi cymuned yr heddlu, felly mae gen i rywfaint o brofiad yn gweithio ar ymgyrchoedd atal trosedd ac ymgysylltu â'r gymuned.
Rwyf hefyd wedi gweithio yn y Ganolfan Datrys Problemau yn Heddlu Gwent, tîm sy'n targedu troseddau neu broblemau mynych yn ein cymunedau gyda chynlluniau pwrpasol sy'n rhoi sylw i wraidd y broblem.
Yn gryno, gellir disgrifio Gwarchod Cymdogaeth fel rhwydwaith cyfeillgar o wirfoddolwr sy'n defnyddio gwahanol ymgyrchoedd i edrych ar ôl eu cymunedau.
Mae'r gwaith gwirfoddol mae aelodau'n ei wneud yn adlewyrchu'r hyn sydd ei angen mewn ardaloedd penodol. Felly, gallai hyn gynnwys rhannu gwybodaeth atal trosedd am bethau fel seiberdrosedd ac adnabod arwyddion twyll, er enghraifft, neu arwain prosiectau yn y gymuned fel digwyddiadau codi sbwriel. Mae cymdogion yn gwneud y gwaith yma gyda'i gilydd er mwyn adeiladu cymunedau saffach, bywiog lle mae pobl yn edrych ar ôl ei gilydd.
Fy ngwaith i yw sicrhau bod y cynlluniau hyn yn gydgysylltiedig, yn ddolen gyswllt rhwng yr heddlu a chymunedau ac yn annog mwy o bobl i ddod yn aelodau.
Ers faint ydych chi'n gwneud eich swydd bresennol? A pha fath o waith ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers rhyw bedwar mis yn awr ac, ers mis Tachwedd, rwyf wedi bod yn cwrdd â phartneriaid, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i asesu pa waith atal trosedd gallwn ni ei wneud er budd cymunedau ledled Gwent ac er mwyn amddiffyn pobl agored i niwed.
Fel cydgysylltydd Gwarchod Cymdogaeth, rwy'n cynnig cyngor i'r cyhoedd ar atal trosedd ac yn gweithio gyda'n haelodau i ddarparu'r cyngor hwnnw. Rwyf hefyd yn goruchwylio'r cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth sy'n cael eu cynnal gennym ni yng Ngwent ac yn cysylltu â phartneriaid allweddol i sicrhau ein bod ni a sefydliadau eraill yn gweithio i ddiwallu anghenion ein cymunedau.
Er enghraifft, sefydlwyd un cynllun yn Nhorfaen yn dilyn pryderon gan drigolion ynglŷn â goryrru yn yr ardal.
Wedyn mae gen i'r cyswllt yna gyda thimau plismona cymdogaeth yng Ngwent. Maen nhw'n cael y newyddion diweddaraf am y gwaith rydym yn ei wneud yn yr ardal ac rwy'n rhoi gwybod iddyn nhw am unrhyw bryderon sydd gan ein haelodau neu drigolion. Mae'r dull cydweithredol yma'n sicrhau bod y cyhoedd yn teimlo ein bod ni'n gwrando arnyn nhw ac yn rhoi sicrwydd iddyn nhw ein bod ni'n mynd i'r afael â'r problemau sy'n achosi pryder iddyn nhw.
Y nod yw adeiladu cymunedau saffach, cryfach a mwy gweithgar lle mae pawb yn gallu ffynnu.
Ar gyfer pwy mae Gwarchod Cymdogaeth a sut mae dod yn aelod?
Gall unrhyw un fod yn aelod; mae'n un o'r ymgyrchoedd atal trosedd gwirfoddol mwyaf yn y wlad, mae'n canolbwyntio ar y gymuned, mae'n gynhwysol, cymdogol a rhagweithiol.
Mae'n dod â phobl yn y gymuned sydd o'r un meddwl at ei gilydd, gyda'r nod o wneud ein strydoedd yn saffach.
Rwy'n hoffi Gwarchod Cymdogaeth am ei fod yn rhoi sicrwydd cyfredol i bobl, yn helpu pobl i gymryd rhan yn ein cymuned leol ac yn helpu i leddfu pryderon. Mae'n rhoi cyswllt cyflym a gwybodus ar gyfer riportio digwyddiadau a phryderon, ac mae'n ddolen gyswllt gyda'r heddlu lleol yn ein hardal.
Mae'n rhoi sicrwydd i mi fod pobl yn fy nghymuned yn gofalu am les fy nheulu ac am fy eiddo. Rwy'n arbennig o hoff o'r hysbysiadau rwy'n eu derbyn yn rhybuddio am fygythiadau posibl, gweithgarwch amheus a sgamiau ar-lein.
Aelod o Dorfaen
Beth mae aelod yn ei wneud?
Fel aelod, rydych chi’n cael gwybodaeth atal trosedd a gwybodaeth am ymgyrchoedd. Byddwch yn gweithio gyda mi ac yn cael cefnogaeth i'ch helpu chi i redeg eich cynllun lleol eich hun.
Mae'r cynlluniau hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn a pharhaol i'ch ardal a helpu i atal trosedd, gwella lles y gymuned a chefnogi cymdogion.
Mae bod yn rhan o Gwarchod Cymdogaeth yn gallu helpu i:
Mae aelodaeth am ddim hefyd! Dysgwch fwy yma: Ymunwch â Ni | Rhwydwaith Gwarchod Cymdogaeth (ourwatch.org.uk) neu mae croeso i chi anfon e-bost at [email protected].
Sut byddech chi'n dweud bod eich profiad fel swyddog cefnogi cymuned wedi eich helpu chi yn y swydd hon?
Mae plismona cymdogaeth mor bwysig.
Nid yn unig mae timau Heddlu Gwent yn targedu troseddwyr, maen nhw hefyd yn cynllunio gwaith ataliol sy'n mynd i'r afael â'r troseddau sy'n difetha cymdogaethau. Mae'r gwaith yna, ynghyd â'r nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu sy'n cael eu trefnu bob wythnos i godi ymwybyddiaeth, yn cyfrannu at gyflawni strydoedd saffach.
Mae pethau fel gwarantau a digwyddiadau marcio beiciau'n gallu cael eu cyflawni gan yr un swyddogion yn y timau cymdogaeth hyn, felly mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i'r llenni i amddiffyn pobl rhag trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ac, i gloi. . . Sut brofiad yw gweithio gyda'r tîm Strydoedd Saffach?
Mae wedi bod yn wych. O'r prif arolygydd, rhingylliaid, cwnstabliaid a staff heddlu, mae’r tîm wedi ymroi i amddiffyn y cyhoedd rhag troseddau yn y gymdogaeth a defnyddio cyllid Y Swyddfa Gartref ar fesurau ataliol.