Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwarant cyffuriau a weithredwyd yr wythnos ddiwethaf ym Mlaenau wedi arwain at bedwar arést.
Gweithredodd swyddogion gyfres o warantau mewn cyfeiriadau yn Attlee Road, Glyn-Milwr ac Abertillery Road, ym Mlaenau Gwent ddydd Llun 27 Chwefror.
Arestiwyd pedwar dyn, 21, 35, 36 a 39 oed, pob un ohonynt o ardal Blaenau Gwent, ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth A - cocên.
Mae’r pedwar wedi cael eu cyhuddo a’u remandio i’r ddalfa.
Meddai Cwnstabl Heddlu Ryan Hagan, y swyddog yn yr achos:
“Mae cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau a byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi yn erbyn pobl sy’n ymwneud â throseddau fel y rhain. Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed i ymchwilio a sicrhau bod y dynion hyn yn cael eu harestio a’u cyhuddo.
"Gofynnaf i aelodau ein cymunedau roi gwybod i ni am unrhyw weithgarwch amheus neu anarferol yn eu hardal, er mwyn i ni allu cymryd camau gweithredu.
“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am gyflenwi neu ddefnyddio cyffuriau yn eich cymuned, ffoniwch ni ar 101, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Fel arall, gallwch anfon neges uniongyrchol gyda gwybodaeth at dudalennau Facebook neu Twitter Heddlu Gwent.”