Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion ymchwilio yn dymuno siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar y ffordd rhwng Tredegar ac Abertyswg, rhwng 3pm a 4pm ddydd Iau 25 Mai, neu unrhyw un â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng.
Cawsom adroddiad am wrthdrawiad ar y ffordd rhwng Tredegar ac Abertyswg, tua 3.45pm ddydd Iau 25 Mai.
Aeth swyddogion yno, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a beic.
Aethpwyd â bachgen 17 oed a menyw 48 oed i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Dywedwyd bod gyrrwr y beic modur wedi gadael golygfa’r gwrthdrawiad. Credir bod y beic modur yn un lliw tywyll, gyda manylion melyn ac oren.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw fodurwyr â lluniau dashcam a oedd yn defnyddio’r ffordd rhwng Tredegar ac Abertyswg, rhwng 3pm a 4pm i gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, yn dyfynnu cyfeirnod log 2300170711 ag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.