Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliwyd Prosiect EDWARD, sy'n sefyll am 'every day without a road death', dros bum diwrnod a gwelwyd ein swyddogion yn cynnal mwy o batrolau, mewn ymgais i hyrwyddo gyrru diogel fel bod pob dydd yn un heb farwolaeth ar y ffordd.
Mae'r prosiect yn hyrwyddo dull 'system ddiogel' a arweinir gan dystiolaeth. Y nod hirdymor yw sicrhau system traffig ffyrdd sy'n rhydd rhag marwolaeth ac anafiadau difrifol.
Trwy gydol yr wythnos, cynhaliodd swyddogion fwy o batrolau a stopio'r rhai a oedd yn cyflawni unrhyw droseddau a lle bo’n bosibl, darparu addysg ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Roedd y canlyniadau'n cynnwys:
• pum arestiad am yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau
• tri arestiad am yrru'n beryglus neu yrru heb ofal dyladwy
• naw cerbyd wedi'u meddiannu am nad oedd ganddynt yswiriant neu drwydded
• wyth trosedd llwyth anniogel
• 102 o adroddiadau trosedd traffig am oryrru neu ddefnyddio ffôn symudol
• 25 atgyfeiriad treth
• 136 prawf cyffuriau neu ddiod negyddol
• 416 rhybudd o erlyniad bwriadedig am oryrru, defnyddio ffôn symudol, a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch
• dim gwrthdrawiadau traffig ffyrdd angheuol.
Dywedodd y Rhingyll Lewys Davies, a arweiniodd yr ymgyrch hon:
"Mae ein swyddogion yn cymryd rhan mewn sawl ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd drwy gydol y flwyddyn, ac mae gan bob un ohonynt yr un nod: helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel i bawb, a chadw'r ffyrdd yn rhydd o farwolaeth ac anafiadau difrifol.
"Hoffwn ddiolch i'r holl asiantaethau partner a helpodd yn ystod yr ymgyrch hon, gan gynnwys GoSafe, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Fel y gallwch weld o'r canlyniadau, cawsom ganlyniadau gwych.
"Bydd swyddogion yn parhau i batrolio ffyrdd Gwent i helpu i gadw pob defnyddiwr ffyrdd yn ddiogel, a bydd y rhai sy'n cyflawni troseddau yn cael eu herlyn."