Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod y seremoni, a gynhaliwyd yng ngwesty Bryn Meadows Golf Hotel & Spa ddydd Mawrth 21 Tachwedd, cafodd swyddogion, staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd eu cydnabod am eu gwaith caled, eu hymrwymiad i’n cymunedau a’u dewrder.
Dyma rai o enillwyr ein gwobrau gwerthoedd – a ddewiswyd gan banel o feirniaid:
Bod yn dosturiol |
Cwnstabl Heddlu Hannah Frankcombe |
Cafodd Cwnstabl Heddlu Hannah Frankcombe ei chydnabod am y gofal, tosturi, a chefnogaeth a roddodd i fenyw a oedd yn sownd mewn cerbyd yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd.
Dan amodau trawmatig, perfformiodd Hannah CPR yn y fan a’r lle nes i gymorth pellach gyrraedd. |
Bod yn ddewr |
Cwnstabl Heddlu Nikhita Bryant |
Dangosodd Cwnstabl Heddlu Nikhita Bryant ddewrder eithriadol mewn ymateb i berson agored i niwed ar goll lle bu’n rhaid iddi wynebu bygythiad gan arf tanio.
Arhosodd Nikhita’n ddigynnwrf a siaradodd gyda’r person nes i’r arf tanio gael ei ildio, gan sicrhau bod y person yn ddiogel a gan wneud yn siŵr ei fod yn derbyn y cymorth angenrheidiol. |
Bod yn gadarnhaol |
Ditectif Ringyll David Hancocke |
Dan oruchwyliaeth ac arweiniad Ditectif Ringyll David Hancocke mae ei dîm wedi cyflawni canlyniadau ardderchog - gan gynnwys dros 100 arést ac arian, cyffuriau ac asedau eraill gwerth dros £400,000 wedi eu hatafaelu dros gyfnod o chwe mis.
Nid yn unig mae’n arweinydd gwych, mae hefyd wedi cael ei ddisgrifio fel rhywun hynod o gadarnhaol ac anhunanol. |
Bod yn falch |
Ditectif Gwnstabl Amy Prosser |
Ditectif Gwnstabl Amy Prosser sy’n arwain rhaglen dditectif genedlaethol Police Now yng Ngwent. Mae hi wedi dangos parodrwydd i weithio, arweinyddiaeth a chadernid gwych ac mae wedi bod yn esiampl i bob myfyriwr ar y rhaglen. |
Parhau i ddysgu |
Swyddog Cefnogi Cymuned Jenny Mullis
Swyddog Cefnogi Cymuned Bryan Flynn |
Cafodd rhaglen cymunedau a’r heddlu Swyddogion Cefnogi Cymuned Jenny Mullis a Bryan Flynn ei chydnabod mewn arolwg PEEL diweddar gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.
Mae’r rhaglen yn cael ei disgrifio fel menter gadarnhaol ac addawol, a gwnaethant gefnogi dau ymgyrch dysgu - un ar gyfer ein cymunedau mudol a’r llall ar gyfer plant sydd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol. |
Cyfraniad eithriadol i wirfoddoli |
Glyn Morvan |
Ar ôl treulio 38 mlynedd fel swyddog heddlu, ymunodd Glyn Morvan â phanel atal trosedd Brynmawr, a ddaeth yn banel atal trosedd Cwm Ebwy Fach yn ddiweddarach. Ar ôl i’r paneli gael eu cau, dechreuodd Glyn fel gwirfoddolwr cefnogi’r heddlu.
Mae’n anrhydedd i ni fod Glyn, ar ôl bron i 50 mlynedd o wasanaeth yng Ngwent, yn parhau i helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel. |
Aelod staff heddlu’r flwyddyn |
Alison Green |
|
Swyddog heddlu’r flwyddyn |
Cwnstabl Heddlu Lisa Bird |
Diolch i’w hymrwymiad i gadw ffyrdd Gwent yn ddiogel, mae Cwnstabl Heddlu Lisa Bird wedi arestio mwy o yrwyr dan ddylanwad cyffuriau nac unrhyw swyddog arall. Hyd yn hyn mae hi wedi arestio 129 o droseddwyr am 197 o droseddau – gyda chyfradd canlyniad cadarnhaol o 59.3%. |
Cydnabyddiaeth arbennig |
Y ‘Crash Detectives’ |
Cafodd yr Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau, neu’r ‘Crash Detectives’ fel maen nhw’n cael eu hadnabod, eu cydnabod am eu gwaith gyda’r BBC.
Mae eu diwydrwydd, eu proffesiynoldeb a’u harbenigedd yn canu cloch gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru a’r DU; gyda mwy na miliwn o bobl yn gwylio bob rhaglen.
Mae eu gwaith gwych yn helpu i feithrin dealltwriaeth o’u gwaith cymhleth a’r effaith mae gwrthdrawiadau’n ei chael ar unigolion a’u teuluoedd.
|
Yn ogystal â’r gwobrau gwerthoedd, cyflwynodd Prif Gwnstabl Pam Kelly dros 50 Gwobr Clod y Prif Gwnstabl i swyddogion a staff i gydnabod dewrder eithriadol, plismona ymchwiliol diwyd, a lefelau uchel cyson o ymrwymiad i gymunedau Gwent.
Mae’r rhai a dderbyniodd Wobr Clod y Prif Gwnstabl yn amrywio o dimau a chwalodd Gangiau Troseddau Cyfundrefnol yng Nghaerffili, i ymgyrchoedd newydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghasnewydd, yn ogystal â diogelu 15 o blant mewn ymgyrchoedd llinellau cyffuriau.
Meddai Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Rwy’n anhygoel o falch i arwain Heddlu Gwent ac mae ein seremoni wobrwyo flynyddol yn gyfle i ddathlu a myfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni fel unigolion ac fel sefydliad.
“Mae’r rhai sy’n derbyn gwobrau yn dangos y gwasanaeth cyhoeddus rhagorol rydyn ni’n anelu at ei gyflawni bob dydd.
“Mae plismona’n swydd anodd, mae swyddogion a staff yn ymdrin â digwyddiadau erchyll, a hynny’n rheolaidd, ac maen nhw’n parhau i ddod i’w gwaith bob dydd i wasanaethu ein cymunedau gydag ymroddiad 100%.
“Pan fydd y ffôn yna’n canu, fel arfer pan mae rhywun wedi cael diwrnod anodd neu mewn argyfwng, ein swyddogion a’n staff ni sy’n camu i’r adwy, yn gwneud eu gorau glas ac yn gwneud
DIWEDD