Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atafaelwyd mwy na 130 o blanhigion canabis gan swyddogion a oedd yn gweithredu gwarantau mewn dwy dref ym Mlaenau Gwent.
Gweithredwyd y ddwy warant, dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, yn Nheras Pen y Bryn, Glynebwy, ddydd Mawrth 26 Medi ac wedyn yn Stryd Ddol, Llanhiledd, ddydd Mawrth 3 Hydref.
Roedd y ffatri yng Nglynebwy yn ymestyn dros bum ystafell ar ddau lawr a oedd yn cynnwys dros 70 o blanhigion, ac atafaelwyd 60 planhigyn arall o’r cyfeiriad yn Llanhiledd wythnos yn ddiweddarach.
Yn ogystal â’r planhigion, cymerodd swyddogion o dîm plismona cymdogaeth Blaenau Gwent gyfarpar tyfu canabis o’r cyfeiriadau hefyd.
Meddai Rhingyll Martyn Pugh:
“Credir mai tua £125,000 oedd gwerth y canabis a atafaelwyd ar draws y ddwy ffatri ac mae’n ymddangos bod y ffatrïoedd yma wedi hen sefydlu ac yn gweithredu ar raddfa ddiwydiannol.
“Mae’n drosedd o hyd i feddu ar, tyfu, dosbarthu neu werthu canabis, a gellir teimlo effaith y cyffur yma mewn gwahanol ffyrdd yn ein cymunedau gan ei fod yn gallu arwain at weithgarwch troseddol arall, fel dwyn.
"Mae’r gwarantau yma’n dangos ein hymrwymiad parhaus i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau niweidiol cyffuriau anghyfreithlon, sy’n gallu arwain at fwy o ofid yn ein trefi, dinasoedd a phentrefi.
“Bydd ein swyddogion yn parhau i weithio’n galed i gasglu gwybodaeth a chynnal ymgyrchoedd i fynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau yn ein cymunedau.
Mae’r wybodaeth mae’r cyhoedd yn ei rhannu gyda ni yn werthfawr iawn a bydd yn ein galluogi ni i ddatgymalu ffatrïoedd eraill yn y dyfodol.
"Mae ein hymchwiliadau’n parhau, ond os oes gennych chi unrhyw wybodaeth a allai helpu ein hymholiadau, neu bryderon am weithgarwch amheus neu anarferol yn eich ardal, cysylltwch â ni."
Ffoniwch ni ar 101, neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhifau cofnod 2300327020 a 2300335514.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw gyda gwybodaeth ar 0800 555 111 neu ar eu gwefan.