Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mwy na 1,200 o blanhigion wedi’u hatafaelu ac mae’r ymchwiliad yn parhau.
Cawsom adroddiad am fyrgleriaeth mewn cyfeiriad yn Commercial Street, Casnewydd, tua 4am ddydd Mercher 27 Medi.
Aeth swyddogion i’r cyfeiriad ac, wrth chwilio’r cyn siop, daethant o hyd i fwy na 1,200 o blanhigion canabis.
Rhoddodd swyddogion dâp ynysu o gwmpas yr adeilad ac ar ôl cael cadarnhad bod yr ardal yn ddiogel, aethant ati i ddatgymalu’r planhigion.
Mae’r planhigion a’r cyfarpar wedi cael eu hatafaelu ac mae’r ymchwiliad yn parhau.
Meddai’r swyddog ymchwilio, Cwnstabl Heddlu Matthew Jones, Rheolwr Ward Cymdogaeth:
“Does dim lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymdeithas.
“Rydyn ni wedi ymroi i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau trwy waredu ein strydoedd o gyffuriau sy’n dinistrio ein cymunedau.
“Byddwn yn parhau i dargedu unrhyw un sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau rheoledig.”
Os oes gennych chi unrhyw fanylion a allai helpu ein hymholiadau, ffoniwch ni ar 101, gan grybwyll rhif cofnod 2300327419.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol hefyd neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ewch i http://www.crimestoppers-uk.org.