Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd pum dyn ar amheuaeth o droseddau cyflenwi cyffuriau ar ôl i swyddogion weithredu cyfres o warantau ddydd Iau 26 Hydref.
Yn ystod y gweithredu aeth swyddogion i ddau gyfeiriad yn Fochriw, un ym Margod ac un ym Mrynmawr i chwilio’r adeiladau.
Atafaelwyd eitemau’n cynnwys cyffuriau a ffonau symudol gan swyddogion.
Arestiwyd dyn 22 oed o Frynmawr a dau ddyn o Fochriw, 21 a 27 oed, ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Arestiwyd dau ddyn o Fargod, 19 a 25 oed, ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth B.
Maen nhw i gyd yn y ddalfa o hyd wrth i ymholiadau barhau.
Meddai Ditectif Arolygydd David Trew:
"Mae ein swyddogion yn gweithio’n ddiflino i wasgu’n dynn ar droseddau difrifol a chyfundrefnol, gan gynnwys troseddau cyflenwi cyffuriau.
"Does dim lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymunedau ac mae’r gwarantau yma’n dangos ein hymrwymiad i wneud Gwent yn lle gelyniaethus i bobl sy’n benderfynol o achosi gofid trwy gyflenwi cyffuriau.
"Mae swyddogion o’n tîm plismona rhagweithiol, y tîm ymateb a’r tîm cymdogaeth wedi gweithio gyda’i gilydd i weithredu pedair gwarant ledled bwrdeistrefi Caerffili a Blaenau Gwent, gan arestio pum dyn ar amheuaeth o droseddau cyflenwi cyffuriau.
"Mae casglu gwybodaeth yn chwarae rhan ganolog yn llywio’r ymgyrchoedd yma a’n hymdrechion i darfu ar gyflenwi a’r troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
“Mae gwybodaeth gennych chi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly gofynnwn yn daer ar bobl sy’n pryderu am droseddau cyffuriau yn eu hardal i’n ffonio ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng.
"Fel arall, gallwch gysylltu a Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."