Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pump o ddynion wedi cael eu cyhuddo o gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.
Gweithredodd swyddogion o Heddlu Gwent warantau mewn pedwar cyfeiriad ym Mlaenau Gwent a Chaerffili ddydd Iau 27 Hydref.
Yn ystod YmgyrchRegal, arestiodd swyddogion bump o ddynion a ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Casnewydd heddiw (dydd Gwener 17 Hydref).
Cyhuddwyd dyn 27 oed o Fochriw o fod â chyffur dosbarth A - cocên –yn ei feddiant gyda bwriad o gyflenwi; ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A - cocên; cynllwynio gyda pherson arall i gyflawni twyll; cyflwyno gyda phobl eraill i ddwyn cerbydau modur; gyrru peryglus; gyrru tra dan waharddiad; gyrru heb yswiriant, bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Cyhuddwyd dyn 21 oed o Fochriw o ddau gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A - cocên; ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth B - canabis; bod â chyffuriau dosbarth B - canabis – yn ei feddiant gyda bwriad o gyflenwi; bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Cyhuddwyd dyn 19 oed o Fargod o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A - cocên; ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth B - canabis; bod â chyffuriau dosbarth B - canabis - yn ei feddiant; bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Cyhuddwyd dyn 25 oed o Fargod o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A – crac cocên; ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth B – canabis.
Cyhuddwyd dyn 22 oed o Frynmawro ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A - cocên; ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth B – cetamin.