Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tŷ yng Nghasnewydd wedi cael ei gau yn dilyn cais llwyddiannus am orchymyn cau yn Llys Ynadon Casnewydd.
Cymeradwywyd y gorchymyn cau tri mis ddydd Mercher 18 Hydref ar gyfer cyfeiriad yn Tewksebury Walk ar ôl i nifer o gŵynion gael eu gwneud mewn cysylltiad â defnydd anghyfreithlon o gyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr adeilad.
Gall unrhyw un sy’n ceisio mynd i mewn i’r adeilad yn groes i’r gorchymyn gael ei arestio gan yr heddlu yn ystod y cyfnod o dri mis.
Meddai Arolygydd Casnewydd Mervyn Priest:
“Rydyn ni wedi cael nifer o alwadau gan y gymuned ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyffuriau’n gysylltiedig â’r cyfeiriad yma.
"Mae’r ymddygiad yma’n cael effaith negyddol ar answdd bywyd trigolion ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymunedau.
“Mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i ni a gofynnaf yn daer ar unrhyw un ag unrhyw bryderon i gysylltu â ni.”
Gallwch riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy:
📞 ffonio 101
💻 defnyddio ein system riportio ar-lein
📲 anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol mae cymorth ar gael trwy Connect Gwent:
📞 ffoniwch 0300 123 21 33
💻 ewch www.connectgwent.org.uk.