Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daw’r gorchymyn 48 awr i rym am hanner nos, dydd Iau 5 Hydref.
Bydd gorchymyn gwasgaru ar gyfer rhannau o Frynmawr mewn grym tan hanner nos, dydd Sul 8 Hydref.
Daeth y gorchymyn i rym am hanner nos, dydd Iau 5 Hydref.
Mae'r gorchymyn ar gyfer ardaloedd yn cynnwys Stryd Caerwrangon, Stryd Morgannwg, Bailey Street, Stryd Beili Isaf, Chapel Street, Stryd Perllan, Beaufort Street, Stryd Davies, Somerset Street a'r orsaf bysus.
(Ffynhonnell: Google Maps)
Meddai Rhingyll Heddlu Richard Williams:
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ein cymunedau ac ni fydd yn cael ei oddef yng Ngwent.
"Mae ein swyddogion wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau a byddant yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n benderfynol o achosi niwed neu anhrefn.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac os gwelwch chi ni ar batrôl, arhoswch i siarad â ni.
"Fel arall gallwch riportio eich pryderon trwy ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter."
Mae gorchmynion gwasgaru'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os ydynt yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n afreolus, os ydynt yn aflonyddu, dychryn neu'n peri gofid i aelodau'r cyhoedd, neu os yw eu hymddygiad yn debygol o arwain at hynny.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.