Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn ymchwilio i adroddiad am ddifrod troseddol, yn dilyn ffrae rhwng dau yrrwr ar yr M4, tua’r gorllewin ger cyffordd 24, tua 5.40pm ddydd Mawrth 19 Medi.
Roedd y digwyddiad rhwng dau gar - Skoda Octavia llwyd tywyll gyda logo cwmni ar y blaen a BMW X3 arian.
Yn ôl pob sôn aeth y teithiwr yn sedd flaen y BMW allan o’r cerbyd a defnyddio cyllell i achosi difrod i fonet a ffenestr flaen ochr y teithiwr y Skoda Octavia cyn mynd yn ôl i mewn i’r BMW a gadael y safle.
Arestiwyd dyn 22 oed o ardal Caerffili ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, difrod troseddol a meddu ar arf troseddol.
Arestiwyd dyn arall, hefyd yn 22 oed o ardal Caerffili, ar amheuaeth o feddu ar arf troseddol a difrod troseddol.
Mae’r ddau ddyn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’n hymholiadau ni barhau.
Rydyn ni’n apelio am luniau camera car neu wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd y rhan hon o’r ffordd rhwng 5.15pm a 5.30pm ddydd Mawrth 19 Medi.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ein ffonio ni ar 101, gan grybwyll rhif cofnod 2300318335 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111 gyda manylion.