Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo ar ôl i swyddogion ddarganfod ffatri ganabis fawr yn hen adeilad Wilding yn Commercial Street, Casnewydd.
Cyhuddwyd dyn 27 oed a dyn 28 oed o Gasnewydd o gynhyrchu cyffur rheoledig Dosbarth B – canabis - ac maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa.
Cafodd y ffatri ganabis ei darganfod yn y siop wag ddydd Mawrth 10 Hydref yn dilyn adroddiadau am weithgarwch amheus yn yr adeilad.
Daeth swyddogion o hyd i dros 3,000 o blanhigion canabis yn yr adeilad ac arestiwyd dau ddyn ar amheuaeth o gynhyrchu canabis. Maen nhw wedi cael eu cyhuddo a byddant yn ymddangos gerbron y llys ddydd Mawrth 9 Tachwedd.
Meddai Cwnstabl Heddlu Mathew Tucker, y swyddog yn yr achos:
“Mae pob ffatri ganabis rydyn ni’n ei datgymalu yn helpu i atal cylch dieflig o drosedd. Trwy darfu ar ffynhonnell y gweithrediadau, rydyn ni’n rhwystro’r planhigion rhag cael eu gwerthu i’n cymunedau ac yn rhwystro’r elw rhag cael ei ddefnyddio i dalu am droseddau eraill.
“Mae’r cyhoedd yn chwarae rôl bwysig yn rhoi gwybodaeth i ni ac rydyn ni’n annog unrhyw un â phryderon i gysylltu â ni.
“Os ydych chi’n credu bod rhywbeth o’i le, efallai bod rhywbeth o’i le. Peidiwch ag aros, rhowch wybod i ni.
“Gallwch wneud hyn drwy ffonio 101, anfon neges atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, neu yn ddienw drwy Crimestoppers.”