Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliwyd yr ymgyrch diweddaraf ddydd Iau 26 Hydref yn safle profi a phont bwyso'r Asiantaeth Safonau Cerbydau (DVSA) ar gylchfan Coldra, Casnewydd.
Roedd yr ymgyrch amlasiantaeth yn cynnwys swyddogion o’r tîm plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol, cwnstabliaid gwirfoddol a swyddogion sy’n hyfforddi.
Ymunodd swyddogion â phartneriaid o’r DVSA, CThEF a’r Motor Insurers’ Bureau.
Yn ystod y diwrnod, dyma a gyflawnwyd:
23 Adroddiad Trosedd Traffig (TOR) wedi’u cyflwyno am wahanol droseddau gan gynnwys dim treth, dim MOT a llwythi anniogel,
Pedwar o gerbydau wedi’u hatafaelu am nad oedd gan y gyrrwr yswiriant,
Wyth gwaharddiad wedi’u cyflwyno oherwydd bod cerbydau’n anaddas i fod ar y ffordd fawr.
Meddai Cwnstabl Heddlu Garrad Davies, a arweiniodd yr ymgyrch:
“Rydym wedi ymroi i wella diogelwch ar y ffyrdd i bawb sy'n defnyddio'r ffyrdd yng Ngwent ac mae ymgyrchoedd rhagweithiol fel Ymgyrch Utah yn un o'r ffyrdd rydym yn gorfodi rheolau diogelwch ar y ffyrdd ac yn mynd i'r afael â throseddau moduro.
“Rwy'n gobeithio y bydd canlyniadau'r ymgyrch yma'n anfon neges glir bod gyrru'n fraint a bod pobl sy’n gyrru’n anghyfrifol neu ddim yn cadw eu cerbyd mewn cyflwr da nid yn unig yn peryglu eu hunain ond yn peryglu pobl eraill hefyd. Mae hynny’n gwbl annerbyniol a byddwn yn delio'n gadarn gyda nhw.
“Rwyf eisiau diolch i'n partneriaid am weithio gyda ni ar yr ymgyrch yma i wneud y ffyrdd yn ein cymunedau mor ddiogel â phosibl.”