Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom adroddiad am argyfwng meddygol yn Heol Hengoed, Hengoed, tua 2.15pm ddydd Sul 1 Hydref.
Aethpwyd â dau fachgen i’r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau y credir eu bod yn gysylltiedig â ffrwydrad tân gwyllt.
Mae bachgen naw oed o ardal Cefn Hengoed yn yr ysbyty ym Mryste o hyd, lle mae’n parhau i gael triniaeth, ac mae mewn cyflwr sefydlog.
Rhyddhawyd bachgen wyth oed o ardal Hengoed o’r ysbyty ddydd Mercher 4 Hydref ar ôl iddo ddioddef anafiadau i’w wyneb.
Meddau Uwch-arolygydd Mike Richards:
“Mae ein swyddogion wedi siarad a llawer o bobl yn barod yn rhan o’n hymholiadau ac mae’r gwaith yma’n parhau.
“Rydyn ni’n gobeithio o fewn y dyddiau nesaf y byddwn wedi siarad â’r ddau fachgen, gan sicrhau eu bod nhw’n barod i siarad â’n swyddogion gyda chefnogaeth a chydweithrediad llawn eu teuluoedd.
“Mae’r gymuned wedi rhannu llawer o wybodaeth gyda ni ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cysylltu â ni gyda gwybodaeth hyd yn hyn.
“Rydyn ni wedi edrych ar y manylion yma ac wedi canfod bod rhywfaint o’r wybodaeth a roddwyd i ni yn anghywir.
“Mae llawer o ddyfalu ynghylch beth sydd wedi digwydd, felly gofynnwn i bobl beidio â gwneud sylwadau am y mater yma ar gyfryngau cymdeithasol gan fod rhai o’r sylwadau yma’n ddiwerth ac yn rhoi pobl ddiniwed yn ein cymunedau, gan gynnwys plant a phobl ifanc, mewn perygl o niwed.
“Rydyn ni eisiau deall beth ddigwyddodd yn Hengoed a arweiniodd, yn anffodus, at anafiadau sylweddol i ddau fachgen yn ogystal â llawer o boen emosiynol i’w teuluoedd a’u ffrindiau.”
Gofynnwn i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2300332856.