Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl adroddiad am ddifrod troseddol i gerbyd yr heddlu yn Hafod-y-Mynydd, Rhymni, tua 8.40am ddydd Sul 9 Medi.
Honnir bod dyn wedi difrodi dau deiar cefn y car pan oedd wedi’i barcio ger cornel Maes-yr-Haf.
Hoffai swyddogion siarad â dyn y maent yn credu y gallai helpu gyda'r ymchwiliad. Yn ôl y disgrifiad mae’n wyn, yn solet, gyda thatŵ mawr ar ran isaf ei goes dde.
Roedd yn gwisgo siaced ddu gyda'r cwfl i fyny, siorts du ac esgidiau rhedeg du.
Dywedodd y Prif Arolygydd Paul Biggs:
“Mae gan y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol oblygiadau enfawr i Heddlu Gwent a'n cymunedau.
“Mae’r weithred difeddwl hon o fandaliaeth yn golygu bod un o’n cerbydau gwasanaeth wedi methu â gweithio am gyfnod byr, gan effeithio ar ein gallu i ymateb i alwadau brys.
“Heblaw am yr effaith ar ein gallu i ymateb i droseddu, mae angen trwsio ein holl gerbydau sydd wedi'u difrodi.
“Fel adnodd cyhoeddus, y trethdalwr sydd wedi gorfod talu am yr atgyweiriadau sy'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn o ddifrod troseddol.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai ein helpu, ffoniwch 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2300307141.
Gallwch hefyd gysylltu â ni gyda gwybodaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter, neu drwy ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.