Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd tri dyn ar amheuaeth o dyfu cyffuriau dosbarth B ar ôl i fferm ganabis 'ar raddfa fawr' gael ei darganfod mewn eiddo ym Mrynmawr ddydd Gwener 22 Medi.
Cawsom adroddiadau bod fferm ganabis yn gweithredu mewn cyfeiriad yn ardal Brynmawr.
Ar ôl cyrraedd yr eiddo, cafodd tri dyn - 53 oed, 48 oed, a 51 oed eu harestio ar amheuaeth o dyfu cyffur dosbarth B (canabis).
Ers hynny maen nhw wedi cael eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.
Bu swyddogion o dîm plismona cymdogaeth Brynmawr yn chwilio'r eiddo a chanfuwyd tua 340 o blanhigion yn yr adeilad.
Dywedodd Martyn Pugh, Rhingyll Plismona Cymdogaeth ym Mlaenau Gwent:
"Mae ein swyddogion wedi cynnal chwiliad o'r eiddo ac wedi tarfu ar ymgyrch fasnachol sylweddol yn tyfu canabis yng Ngwent.
"Mae casglu gwybodaeth yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r cyflenwad o gyffuriau anghyfreithlon a tharfu arnynt.
"Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn ein cymunedau rhag cyffuriau a'r troseddau sy'n gysylltiedig â chyflenwi, sy’n gallu cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau.
"Mae eich adroddiadau wir yn gwneud gwahaniaeth, rydyn ni’n dal i ofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu bryderon am ddefnyddio neu ddelio cyffuriau yn eu hardal nhw gysylltu drwy ein ffonio ni ar 101 neu Crime Stoppers yn ddienw ar 0800 555 111."