Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth gorchymyn gwasgaru ar gyfer rhannau o Gasnewydd i rym am 8pm ddoe (dydd Mawrth 26 Medi) yn dilyn nifer o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y gorchymyn mewn grym tan 8pm ddydd Iau 28 Medi ar gyfer Parc Broad Mead, siopau Pontfaen a'r ardaloedd o amgylch fel y dangosir ar y map isod.
Dywedodd Prif Arolygydd Amanda Thomas:
"Yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Parc Broad Mead, Casnewydd dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cyhoeddi'r gorchymyn gwasgaru yma a byddwn yn cynnal mwy o batrolau yn yr ardal.
"Ni fyddwn yn goddef ymddygiad y rhai a oedd yn gysylltiedig â digwyddiadau neithiwr, sy'n cynnwys adroddiadau am ddifrod troseddol i gerbydau heddlu ac sy'n cael effaith anferthol ar Heddlu Gwent a'n cymunedau.
"Nid yn unig mae'r fandaliaeth hurt yma'n golygu nad oedd nifer o'n cerbydau gweithredol ar gael am gyfnod byr dros yr wythnosau diwethaf, gan effeithio ar ein gallu i ymateb i alwadau brys, ond hefyd aethpwyd ag un o'n swyddogion i'r ysbyty am driniaeth am fân anafiadau.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac os gwelwch chi ni ar batrôl, arhoswch i siarad â ni. Fel arall gallwch riportio eich pryderon trwy ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter."
Mae gorchmynion gwasgaru'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os ydynt yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n afreolus, os ydynt yn aflonyddu, dychryn neu'n peri gofid i aelodau'r cyhoedd, neu os yw eu hymddygiad yn debygol o arwain at hynny.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.
Yn dilyn anhrefn neithiwr, arestiwyd dyn 18 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o ddifrod troseddol, ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys a bod â chyffur dosbarth B yn ei feddiant. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu ers hynny. Ni fydd yr ymddygiad yma'n cael ei oddef, ac mae ymholiadau'n mynd rhagddynt i ganfod pwy yw'r unigolion eraill a oedd yn ymwneud â’r anhrefn yma, a byddwn yn cymryd camau gweithredu cadarn.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau camera car neu CCTV o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddigwyddodd ddydd Llun 25 Medi, ein ffonio ar 101, neu anfon neges atom ni ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2300325784. Gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda manylion hefyd.
Source:Google maps