Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gweithredodd swyddogion dair gwarant mewn cyfeiriadau yn Corporation Road a Stow Hill, Casnewydd a gwarant arall mewn cyfeiriad yn Cefn Coed Road, Caerdydd yn ystod oriau mân dydd Mercher 13 Medi.
Yn ystod Ymgyrch Silver gweithredwyd y gwarantau mewn cysylltiad ag ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau.
Arestiwyd dyn 44 oed, dyn 36 oed, dyn 60 oed a dyn 66 oed ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau.
Mae’r pedwar ohonyn nhw yn y ddalfa.
Meddai Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew:
"Rydyn ni’n gobeithio bod y gwarantau yma’n dangos ein hymrwymiad parhaus i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau niweidiol nid yn unig cyffuriau ond y troseddau sy’n gysylltiedig â nhw hefyd.
"Mae cymorth gan y cyhoedd yn hollbwysig gyda’r gwaith yma, a gofynnaf yn daer ar bobl i roi gwybod i ni am unrhyw weithgarwch amheus neu anarferol yn eu hardal er mwyn i ni allu gweithredu.
“Os ydych chi’n pryderu am ddelio cyffuriau yn eich ardal chi, ffoniwch ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”