Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dewiswyd cyflwyno Cydgysylltydd Ymgysylltu â Goroeswyr arbenigol yng Ngwent yn gais rhanbarthol buddugol yn nigwyddiad cydnabyddiaeth cyntaf Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Coleg Plismona ar gyfer swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched (VAWG). Enillodd rôl Ymgysylltu â Goroeswyr Heddlu Gwent y categori “Rydym wedi clywed ac rydym wedi newid”.
Cafodd y digwyddiad cydnabyddiaeth ei ddatblygu a’i feirniadu ar y cyd gan heddluoedd a chynrychiolwyr o elusennau gan gynnwys SafeLives, Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a Karma Nirvana, ochr yn ochr â Chomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, Nicole Jacobs, a chymdeithasau staff heddlu. Cafwyd dros 140 o geisiadau a gafodd eu beirniadu’n rhanbarthol gan yr heddlu a phaneli yn y trydydd sector yn y lle cyntaf, cyn cael eu cyflwyno gerbron panel cenedlaethol a benderfynodd ar yr 13 o brif enillwyr.
Roedd yn rhaid i bob cais buddugol ddangos sut y gwnaeth feithrin ymddiriedaeth a hyder, bod ei ddull yn canolbwyntio ar y dioddefwr, ac roedd yn rhaid dangos effaith, gan gynnwys sut yr oedd yn ymlid troseddwyr. Gwnaeth effeithiolrwydd llawer o'r ceisiadau argraff fawr ar y beirniaid, a rhoddwyd clod arbennig i'r swyddogion, y staff a'r gwirfoddolwyr hynny a oedd yn gwrando ar ddioddefwyr a goroeswyr, ac yna'n llywio eu gweithgarwch yn unol â hynny.
Yng Ngwent, sefydlwyd rôl y Cydgysylltydd Ymgysylltu â Goroeswyr yn 2019, sy’n ymgysylltu â goroeswyr cam-drin rhywiol a domestig.
Drwy’r Cydgysylltydd Ymgysylltu â Goroeswyr, gall dioddefwyr rannu eu profiadau bywyd ac adborth i arwain newidiadau a gwelliannau yn y gofal i ddioddefwyr ar draws y gwasanaeth a’n hasiantaethau partner.
Mae enillwyr eraill yn cynnwys ymgyrch i fynd i’r afael ag ymddyiad rhywiaethol a chasineb at fenywod yn fewnol (Heddlu Avon a Gwlad yr Haf), lleihau troseddau treisgar a gyflawnir yn erbyn gweithwyr rhyw (Heddlu Cleveland), sesiynau addysgol i ysgolion (Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr) a goroeswr trais rhywiol sydd wedi helpu Heddlu Swydd Lincoln drwy adrodd ei hanes am y system cyfiawnder troseddol er mwyn cefnogi dioddefwyr eraill.
Dywedodd DCC Maggie Blyth, cydgysylltydd trais yn erbyn menywod a merched Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu:
“Diolch i bawb sy’n gweithio ym maes plismona ac sy’n canolbwyntio ar wneud cymdeithas yn fwy diogel i fenywod a merched.
“Mae cael paneli beirniadu rhanbarthol a chenedlaethol sy’n cynnwys arbenigwyr o'r tu mewn a'r tu allan i faes blismona wedi bod o gymorth mawr i ni ganolbwyntio ar enillwyr sydd wedi dangos dealltwriaeth o’r hyn y mae dioddefwyr am ei gael ac yn ei ddisgwyl, ond hefyd ar weithgarwch sy’n gynaliadwy. Dim ond drwy fodelu’r gwaith rhagorol hwn y gallwn obeithio sicrhau cysondeb i fenywod a merched ar draws ein heddluoedd. Roedd cofnodion hefyd yn dangos sut rydyn ni’n ymlid tramgwyddwyr ac yn dangos iddyn nhw nad oes unman i guddio. Mae pob un ohonom ni eisiau i blismona gyflawni mwy ac er bod gennym ni lawer o waith i’w wneud o hyd, mae ansawdd y gwaith sydd ar y gweill yn fy nghalonogi.”
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Ian Roberts: “Roedd yn wych gweld Heddlu Gwent yn cael ei gydnabod yn nigwyddiad cydnabyddiaeth cenedlaethol Plismona Trais yn Erbyn Menywod a Merched NPCC.
“Gall troseddau gael effaith ddinistriol, ac mae sicrhau bod dioddefwyr yn cael y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn helpu i ymdopi ac adfer, yn ogystal â dod â’r rhai sy’n gyfrifol am y troseddau hynny gerbron y llysoedd, yn flaenoriaeth i ni.
“Rydyn ni’n falch o’r camau rydyn ni wedi’u cymryd fel gwasanaeth i fynd i’r afael â VAWG, ac o waith caled ac ymroddiad ein cydgysylltwyr Ymgysylltu â Goroeswyr, y gorffennol a’r presennol, i feithrin a datblygu amgylchedd lle mae dioddefwyr yn hyderus i ddod atom ni.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r dioddefwyr – a ddaeth atom ni nid yn unig i adrodd am eu profiad – ond a ddefnyddiodd eu profiad hefyd i’n helpu ni i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth. Mae eu cyfraniad wedi ein helpu ni i wneud newidiadau ystyrlon ac mae'r gydnabyddiaeth hon wedi’i neilltuo iddyn nhw.”
Cafodd y digwyddiad ei noddi’n garedig gan Salesforce a Kulpa a diolch iddynt am ddarparu’r lleoliad yn rhad ac am ddim, am gefnogi’r digwyddiad ac am gyfrannu at y deunyddiau a argraffwyd.