Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae menter newydd i hybu ac annog perchnogaeth cŵn cyfrifol ledled bwrdeistref sirol Caerffili wedi cael ei lansio.
Cynhaliodd partneriaid o Bartneriaeth Diogelwch Cymuned Caerffili Saffach – gan gynnwys Heddlu Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – ddigwyddiad lansio arbennig yn Ystrad Mynach ddydd Iau 21 Medi.
Nod y fenter, o’r enw LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn neu Local Environmental Awareness on Dogs yn Saesneg), yw rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion yn ymwneud â chŵn, yn ogystal â gwella diogelwch cŵn a lles cŵn.
Mae hefyd yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anystyriol gan unigolion â chŵn mewn ffordd sy'n amddiffyn a thawelu meddwl y cyhoedd.
Bydd menter LEAD yn galluogi partneriaid i rannu cudd-wybodaeth a rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith fel llythyrau rhybuddio, cytundebau ymddygiad derbyniol ac, yn y pen draw, camau gorfodi os yn briodol.
Meddai Uwch-arolygydd Mike Richards o ardal blismon ardal y gorllewin, “Mae’r fenter partneriaeth yma’n cael ei lansio yn dilyn nifer o achosion trasig yn ein hardal ni, lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol gan gi.
“Mae pobl yn fwy ymwybodol o ymosodiadau gan gŵn yn ein cymunedau yn awr, felly rydyn ni eisiau codi’r ymwybyddiaeth yna ymhellach a chydweithio i hybu perchnogaeth cŵn cyfrifol.
“Mae’r holl sefydliadau sy’n ymwneud â’r fenter yma wedi ymroi i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.
“Yn dilyn y lansiad yn ardal Caerffili, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni gyflwyno’r fenter yn y pedair ardal awdurdod lleol arall yng Ngwent.”
Meddai Cynghorydd Sean Morgan, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Rydyn ni’n falch i fod yn lansio’r fenter newydd bwysig yma sydd eisiau creu effaith gadarnhaol ledled ein cymunedau.
“Mae LEAD wedi’i gydnabod yn genedlaethol fel yr arfer gorau ar gyfer hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol a byddwn yn cydweithio gyda pherchnogion cŵn i annog a chefnogi’r ymddygiad yma.
“Fodd bynnag, mae angen i ni anfon neges glir at drigolion hefyd - os bydd unrhyw un yn peidio â chydymffurfio gyda’n hymyraethau, byddwn yn gweithredu i orfodi’r gyfraith ac amddiffyn y cyhoedd pryd bynnag y bydd angen a lle mae deddfwriaeth yn caniatáu hynny,” meddai.
Gofynnwn yn daer ar aelodau’r cyhoedd i ffonio’r awdurdod lleol am gŵn swnllyd, baeddu gan gŵn, bridio anghyfreithlon neu gŵn crwydr.
Ffoniwch Heddlu Gwent ar 101, neu anfonwch neges ar Facebook neu Twitter am fridiau anghyfreithlon, brwydrau cŵn wedi’u trefnu, cŵn peryglus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda chŵn.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.