Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu menyw o Rymni, a fu farw ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn Nelson, wedi dweud ei bod hi’n ‘gymeriad’.
Cawsom adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng car a cherddwr ar Shingrig Road, Nelson, tua 2pm ddydd Mercher 19 Ebrill.
Aeth swyddogion i’r safle ac aeth parafeddygon â menyw 64 oed i’r ysbyty am driniaeth.
Arhosodd y fenyw yn yr ysbyty lle, yn anffodus, bu farw ddydd Iau 31 Awst; gallwn gyhoeddi mai ei henw yw Sandra Diplock.
Mae ei theulu agosaf yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol tra bod ein hymholiadau’n parhau.
Mae teulu Sandra Diplock wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol iddi:
“Bydd marwolaeth Sandra, ein mam, gwraig, mam yng nghyfraith, chwaer, mam-gu a hen fam-gu berffaith, dan amgylchiadau mor drychinebus yn gadael bwlch yn ein bywydau na fyddwn ni byth yn gallu ei lenwi.
“Roedd ein mam yn gymeriad, roedd pawb yn ei hadnabod hi ac roedd ganddi lawer o ffrindiau.
“Allwn ni ddim dychmygu bywyd hebddi hi, hi oedd ein brenhines a bydd colled fawr ar ei hôl hi a byddwn yn ei chofio am byth.
“Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb am eu negeseuon o gefnogaeth, dymuniadau caredig a blodau bendigedig.
“Mae pawb wedi bod yn anhygoel o garedig ar yr adeg anodd yma. Hoffem ddiolch i’r staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn arbennig y rhai ar ward T4 lle treuliodd mam y rhan fwyaf o’i hamser.
“Cafodd y gofal gorau ganddyn nhw a chawsom ni fel teulu gymaint o gymorth ganddyn nhw.”