Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod yr ymgyrch addysgol sy’n dechrau dydd Llun 11 Medi ac yn parhau am bythefnos, bydd ein swyddogion yn helpu i gadw holl ddefnyddwyr y ffyrdd yn ddiogel; gan gynnwys pobl sy’n cael eu hystyried i fod yn ‘agored i niwed'.
Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar y defnyddwyr ffyrdd canlynol:
Bydd swyddogion yn ymgysylltu â defnyddwyr ffyrdd hŷn ac iau sy’n cael eu hystyried i fod yn agored i niwed hefyd.
Nod cyffredinol yr ymgyrch yw:
Dywedodd Rhingyll RPSO Dan Wise, y swyddog sy’n arwain yr ymgyrch yma:
"Ein blaenoriaeth yw cadw pawb sy’n defnyddio’r ffyrdd yn ddiogel.
"Mae’r defnyddwyr ffyrdd y cyfeirir atyn nhw yn rhan o’r ymgyrch yma yn arbennig o agored i gael anaf difrifol os ydyn nhw mewn gwrthdrawiad. Felly rydym wedi ymroi i wneud popeth o fewn ein gallu i godi ymwybyddiaeth o sut gall pob un ohonom ni wella ein diogelwch ar y ffyrdd, a chymryd camau yn erbyn defnyddwyr ffyrdd sy’n rhoi’r bobl yma mewn mwy o berygl.
“Bydd ein swyddogion ar grwydr ledled Gwent trwy gydol yr ymgyrch yma, yn stopio pobl sy’n peryglu pobl eraill ac yn esbonio iddyn nhw sut gallan nhw helpu i gadw pobl sy’n fwy agored i niwed ar ein ffyrdd yn ddiogel.
“Byddwn yn ceisio ymgysylltu â chymaint o ddefnyddwyr y ffyrdd â phosibl yn ystod y cyfnod yma i godi ymwybyddiaeth ac i helpu i atal mwy o bobl rhag cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.”
Ar ffyrdd Cymru yn 2022:
Rhwng 2016 a 2022, lladdwyd 1 o farchogwyr.
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld beth fydd ein swyddogion yn ei wneud dros y pythefnos nesaf.
Os gwelwch chi rywun yn gyrru’n beryglus, ffoniwch 101 neu riportiwch drwy gyfrwng ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.