Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n ymchwilio i adroddiad am ymosodiad rhywiol yn High Street, Casnewydd. Credir i’r ymosodiad ddigwydd yn nhafarn The Greyhound tua 11.55pm dydd Sadwrn 9 Medi.
Ymosododd dyn yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau ac mae hi’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Arestiwyd dyn 28 oed a menyw 22 oed, y ddau ohonynt o ardal Casnewydd, mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae’r ddau ohonyn nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd unrhyw beth a allai helpu’r ymchwiliad.
Maen nhw eisiau clywed gan unrhyw un a oedd yn nhafarn The Greyhound rhwng 11.30pm dydd Sadwrn 9 Medi a 12.30am dydd Sul 10 Medi.
Os oes gennych chi unrhyw fanylion a allai helpu ein hymholiadau, ffoniwch ni ar 101, gan grybwyll rhif cofnod 2300305747.
Gallwch anfon neges uniongyrchol at ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol hefyd neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ewch i http://www.crimestoppers-uk.org i rannu unrhyw wybodaeth.
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Michelle Chaplin, sy’n arwain yr ymchwiliad: “Rydyn ni’n deall bod trigolion yn gallu bod yn bryderus pan fydd trosedd fel hon yn cael ei riportio mewn cymuned leol.
“Hoffwn eich sicrhau chi bod hwn yn edrych fel digwyddiad unigol ac rydyn ni’n parhau i wneud ymholiadau.”
Gallwch gael cyngor pellach ar ein gwefan, sy’n cynnwys cefnogaeth a gwybodaeth gan asiantaethau partner, ond gallwch siarad ag un o’n swyddogion hefyd neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X (Twitter gynt).