Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd pedwar o gŵn eu hatafaelu o gyfeiriad ym Medwas ar ôl i swyddogion weithredu gwarant yn ystod oriau mân bore ddoe (dydd Mawrth 9 Ebrill).
Cynhaliwyd yr ymgyrch ar y cyd gyda swyddogion safonau masnachu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau yn lleisio pryder bod bridiau wedi’u gwahardd yn cael eu cadw yn y cyfeiriad.
Meddai Arolygydd Rebecca Williams:
"Tra bydd yr anifeiliaid yn cael eu hasesu gan swyddogion deddfwriaeth cŵn yn awr, hoffwn ddiolch i’n cymunedau am eu cymorth parhaus.
“Rydyn ni’n deall bod cŵn wedi'u gwahardd yn achos pryder, ac rydym yn gobeithio bod y warant yma’n dangos ein bod yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel.
"Trwy’r ymgyrch LEAD, rydyn ni’n annog perchnogaeth gyfrifol o gŵn ledled y sir, ond rydyn ni hefyd yn parhau i weithredu yn sgil gwybodaeth gan y cyhoedd am fridiau y maen nhw’n amau sydd wedi eu gwahardd trwy weithredu’r gwarantau yma.
"Os ydych chi’n credu bod gennych chi wybodaeth am gi sydd wedi ei wahardd neu gi peryglus ble rydych chi’n byw, siaradwch â ni."
Canllaw ar gŵn wedi’u gwahardd
Yn y DU, mae yn erbyn y gyfraith i fod yn berchen ar fathau penodol o gŵn.
Y rhain yw:
Mae yn erbyn y gyfraith i:
Ar 31 Rhagfyr 2023, daeth cam cyntaf y gwaharddiad Bwli XL i rym ar ôl i’r brid gael ei ychwanegu at y Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.
Daeth ail gam y gwaharddiad Bwli XL i rym ym mis Chwefror. Mae’n drosedd bod yn berchen ar gi Bwli XL yng Nghymru a Lloegr yn awr oni bai bod gan eich ci Dystysgrif Eithrio ac yswiriant trydydd parti. Hefyd, rhaid i’r ci wisgo mwsel a bod ar dennyn mewn man cyhoeddus. Os na, mae gan yr heddlu’r pŵer i’w atafaelu.
Mae mwy o gyngor gan y Llywodraeth ynglŷn â bod yn berchen cŵn Bwli XL i’w weld yma: https://www.gov.uk/government/collections/xl-bully-dogs