Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cywiriad - roedd yr adroddiad a gafwyd i ddechrau’n nodi bod gwrthdrawiad wedi digwydd ym maes parcio Meddygfa Gray Hill ond, ers cyhoeddi’r apêl yn gynharach heddiw, rydym wedi cael gwybod bod y gwrthdrawiad wedi digwydd yn y maes parcio drws nesaf i’r feddygfa. Gofynnir i unrhyw un a oedd yn neu’n agos at y maes parcio drws nesaf i’r feddygfa neu ym maes parcio’r feddygfa gysylltu â ni gydag unrhyw fanylion.
-----------------------------------------------------------------------------------------
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i wrthdrawiad rhwng car a cherddwr ym Meddygfa Gray Hill, Cil-y-coed, yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
Cawsom adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd ym maes parcio Meddygfa Gray Hill, Cil-y-coed tua 11.25am dydd Sadwrn 13 Ebrill.
Aeth swyddogion i’r lleoliad, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car - Vauxhall Corsa du, a cherddwr. Cafodd y cerddwr, menyw 79 oed o Gil-y-coed anafiadau sy’n newid bywyd ac aethpwyd â hi i’r ysbyty i gael triniaeth.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un â lluniau camera car neu CCTV o faes parcio Meddygfa Gray Hill neu’r ardaloedd o gwmpas, rhwng 11am a 11.25am, gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, gan grybwyll rhif cofnod 2400118919 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.