Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhwng 5 Awst ac 8 Awst, derbyniodd Heddlu Gwent bum adroddiad o ddwyn, gyda Ford Fiesta STs ac Eco Sports, ac Range Rover Evoques ymhlith y cerbydau a gafodd eu dwyn.
Dywedodd yr Arolygydd Lee Stachow, arweinydd plismona cymdogaeth Torfaen:
Gall lladron manteisgar ddefnyddio meddalwedd i godi'r signal sy'n cael ei allyrru gan systemau mynediad di-allwedd a chael mynediad i'r car heb fod â'r allwedd.
"Mae modd gwneud hyn yn gyflym - weithiau o fewn ychydig funudau - ac mae modd ei wneud y tu allan i'n tai, felly mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd rhai camau ataliol i amddiffyn ein cerbydau.
Y cam cyntaf yw cadw eich ffob allwedd i ffwrdd o ddrysau a ffenestri, yn ddelfrydol mewn cwdyn blocio signal neu fag faraday, i atal lladron rhag 'cydio' yn y signal o'r tu allan.
"Gallwch hefyd ddiffodd signal diwifr y ffob pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, cysylltwch â'ch deliwr car i wirio bod meddalwedd eich cerbyd yn gyfredol a defnyddio clo ar yr olwyn lywio i ychwanegu'r haen ychwanegol honno o ddiogelwch."
Cadw eich car yn ddiogel | Rhai awgrymiadau i atal troseddu
Allwch chi helpu?
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladradau diweddar ein ffonio ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom trwy Facebook neu X.
Gallwch hefyd roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.