Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Neges i'n cymunedau gan y Prif Uwch-arolygydd Leanne Brustad yn dilyn anhrefn diweddar yn y DU.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Leanne Brustad:
"Rydyn ni'n gwybod bod anhrefn ar draws y DU yn ystod y dyddiau diwethaf wedi achosi i aelodau o'n cymunedau deimlo’n bryderus.
"Ein cyfrifoldeb ni yw cadw ein cymunedau'n ddiogel ac rydym wedi paratoi yn unol â hynny pe bai unrhyw beth yn digwydd yn ein hardal. Rydym yn monitro gwybodaeth ar lefel leol a chenedlaethol ynghylch tarfu posibl a byddwn yn parhau i fod ag ymateb plismona cadarn ar waith i fynd i'r afael ag anhrefn posibl.
"Mae ein swyddogion ar batrôl i ddarparu presenoldeb gweladwy yn ein cymunedau, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n teimlo'n agored i niwed ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i gefnogi ein cymunedau ac rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd i gynnig cyngor, i wrando ar eu pryderon a chadw pawb yn ddiogel.
"Rydym yn ymwybodol o ddyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol a hoffem fod yn glir nad oes unrhyw wybodaeth i ategu unrhyw anrhefn a gynlluniwyd yn ein hardal ar hyn o bryd.
"Byddwn yn annog pobl i feddwl eilwaith am yr hyn rydych chi'n ei ddarllen, ei rannu a'i gredu o ffynonellau ar-lein. Mae llawer o gymhellion pam y gallai pobl fod yn rhannu gwybodaeth, felly byddwch yn feirniadol ac, os oes amheuaeth, trowch at leisiau dibynadwy fel yr heddlu ac arweinwyr cymunedol.
"Rydym yn sefyll gyda'n cymunedau yn erbyn rhaniadau a chasineb.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth am anhrefn neu ymddygiad troseddol sydd wedi'i gynllunio ymlaen llaw, rhowch wybod i ni drwy ein gwefan, drwy ffonio 101 neu anfon negeseuon uniongyrchol atom ar ein tudalennau Facebook neu X, fel y gallwn weithredu. Fel arall, gallwch ei riportio i Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111."
Datganiad o gefnogaeth i'n cymunedau amrywiol gano Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent
Fel Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent (IAG), ein rôl ni yw gweithredu fel cyfaill beirniadol i Heddlu Gwent a sicrhau bod lleisiau cymunedol amrywiol yn cael eu clywed.
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae ein cynrychiolwyr wedi mynychu cyfarfodydd cymunedol gydag uwch swyddogion Heddlu Gwent, arweinwyr cymunedau a'n partneriaid mewn awdurdodau lleol. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, rydym wedi clywed am y pryder a'r ofn a rennir gan bobl ledled Gwent, yn enwedig gan y rhai y mae eu cymunedau wedi'u targedu mewn mannau eraill yn y DU: ein cymuned Fwslimaidd, pobl Ddu ac Asiaidd, ffoaduriaid, ymfudwyr a cheiswyr lloches. Rydym hefyd wedi cael ein calonogi wrth glywed am waith rhagweithiol Heddlu Gwent wrth iddynt gwrdd â'n gwahanol gymunedau, cynyddu patrolau mewn ardaloedd agored i niwed ac ymateb i'n pryderon.
Rydym yn cefnogi datganiad Heddlu Gwent yn gryf nad oes lle i raniadau a chasineb yng Ngwent, ac rydym yn condemnio'r hiliaeth a'r Islamoffobia a ddangoswyd yn nigwyddiadau'r dyddiau diwethaf.
Rydym yn deall pa mor bryderus y bu llawer ohonoch yr wythnos hon ond byddem yn eich annog i barhau â'ch bywyd bob dydd. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wybodaeth yn cadarnhau unrhyw anrhefn arfaethedig yng Ngwent. Trowch at leisiau dibynadwy fel cyfryngau cymdeithasol Heddlu Gwent a'ch arweinwyr cymunedol, gan eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Heddlu Gwent yn rheolaidd.
Rydym yn annog ein holl gymunedau i gefnogi ei gilydd a rhoi gwybod i Heddlu Gwent am unrhyw wybodaeth sydd gennych am anrhefn a gynlluniwyd ymlaen llaw. Os ydych chi'n profi achos o drosedd gasineb, rhowch wybod amdano fel y gallwch gael gafael ar gymorth – gallwch roi gwybod i Heddlu Gwent neu i Connect Gwent:
Ffôn: 03001232133
E-bost: [email protected]
Gwefan: Connect Gwent
(Mae Connect Gwent yn gweithredu 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Iau, ac 8am-5pm ar ddydd Gwener).