Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd pump o bobl a oedd yn defnyddio eu ffôn symudol wrth yr olwyn a phedwar yn gyrru heb ofal a sylw dyladwy ymhlith y modurwyr a ddaliwyd gan swyddogion yn ystod ymgyrch diogelwch ffyrdd ar yr M4 dros gyfnod o wythnos.
Fel rhan o'r fenter genedlaethol, Ymgyrch Tramline, cafodd gyrwyr a welwyd yn cyflawni trosedd o safle uchel mewn Cerbydau Nwyddau Trwm heb ei farcio - ar fenthyg oddi wrth National Highways - eu stopio yn ddiweddarach gan gerbyd cefnogi.
Canfuwyd un ar hugain o droseddau moduro ar y draffordd yn ystod yr ymgyrch saith diwrnod, gan arwain at 19 o adroddiadau troseddau traffig (TOR), un hysbysiad cosb benodedig raddedig ac un rhybudd llafar.
Dywedodd PC Adam Hollings, o'r uned plismona ffyrdd ac ymgyrchoedd arbenigol:
“Mae'r ‘pedwar angheuol‘ yn dal i fod â rhan sylweddol yn y rhan fwyaf o wrthdrawiadau ar ein ffyrdd; mae llawer o fywydau modurwyr diniwed, a'u hanwyliaid, yn cael eu difetha gan yrwyr anystyriol sy'n eu cyflawni.
“Mae'n siomedig ac yn frawychus bod llawer o yrwyr yn dal i feddwl ei bod yn dderbyniol diystyru'r gyfraith fel hyn drwy gyflawni'r troseddau hyn.
“Mae Ymgyrch Tramline yn caniatáu i'n swyddogion hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd ond hefyd anfon y neges glir bod gyrru fel hyn nid yn unig yn beryglus ond yn annerbyniol.”
Cynhaliwyd yr ymgyrch rhwng cyffyrdd 22 a 30 o'r M4 rhwng dydd Llun 29 Gorffennaf a dydd Sul 4 Awst, gyda swyddogion yn anelu at ganfod enghreifftiau o yrru anghyfreithlon neu anniogel yn ymwneud yn benodol â’r ‘pedwar angheuol’.
Dywedodd Cydlynydd Cynorthwyol Diogelwch National Highways, Marie Biddulph:
“Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n defnyddio ein ffyrdd yn gwneud hynny'n ddiogel ac yn gyfreithlon, ond mae lleiafrif sy'n parhau i beryglu eu hunain ac eraill.
“Gwyddom fod peidio â gwisgo gwregysau diogelwch a gyrru heb ganolbwyntio, fel defnyddio ffôn symudol, yn ffactorau allweddol mewn nifer fawr o ddigwyddiadau sy'n arwain at bobl yn cael eu brifo neu hyd yn oed eu lladd ar ffyrdd.
“Mae ymchwil yn dangos eich bod pedair gwaith yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad os ydych yn defnyddio'ch ffôn wrth yrru a dwywaith yn fwy tebygol o farw mewn gwrthdrawiad os na fyddwch yn gwisgo gwregys diogelwch.
“Trwy Ymgyrch Tramline a gan weithio gyda'n partneriaid heddlu, rydym am wneud i bobl feddwl eto am eu hymddygiad wrth yrru a'r risgiau y gallent eu hachosi.”