Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n parhau i apelio am wybodaeth i ganfod beth ddigwyddodd i Kyle Vaughan, 12 mlynedd ar ôl iddo gael ei weld ddiwethaf.
Y tro diwethaf i’r dyn o Drecelyn, a oedd yn 24 oed ar y pryd, gael ei weld oedd tua 11.45pm ar 30 Rhagfyr 2012.
Roedd y car yr oedd yn ei yrru, Peugeot 306 arian, mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A467 rhwng Crosskeys a Rhisga ar 30 Rhagfyr 2012.
Lansiwyd ymchwiliad person coll i ddechrau a ddaeth wedyn yn ymchwiliad llofruddiaeth, ar ôl i wyth o bobl gael eu harestio mewn cysylltiad â’i ddiflaniad; cafodd pob un ohonyn nhw eu rhyddhau heb eu cyhuddo.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Andrew Tuck, yr uwch swyddog ymchwilio:
"Byddai Kyle yn 36 oed yn awr ac mae ein ditectifs yn parhau i weithio ar yr achos, ac yn dilyn unrhyw lwybrau ymchwilio sy’n dod i’r amlwg.
"Mae ei deulu wedi byw heb atebion i’w cwestiynau am gymaint o amser ac rydyn ni mewn cysylltiad rheolaidd â nhw wrth i ni barhau i geisio darganfod beth ddigwyddodd iddo.
"Gofynnaf yn daer ar aelodau’r cyhoedd i gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd gennych chi, ni waeth pa mor ddibwys rydych chi’n credu yw’r wybodaeth honno."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth yn ymwneud â diflaniad Kyle, gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, ar-lein ar www.gwent.police.uk neu drwy anfon e-bost at [email protected], gan grybwyll rhif cofnod 397 30/12/12.
Gallwch gyflwyno gwybodaeth mewn cysylltiad â’n hymchwiliad i ddiflaniad Kyle ar borth digwyddiadau mawr yr heddlu (MIPP) hefyd, sydd ar gael yma.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw gyda manylion hefyd ar 0800 555 111 neu ar www.crimestoppers.org.uk.