Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Lynebwy wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes ar ôl i lys ei gael yn euog o dros 10 trosedd rhywiol yn erbyn plant.
Plediodd Colin Morris, 48, yn euog i bob trosedd, gan gynnwys tri chyhuddiad o dreisio plentyn dan 13 oed, dau gyhuddiad o ymgais i dreisio, un cyhuddiad o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, chwe chyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant a thri chyhuddiad o ddosbarthu delweddau anweddus o blant.
Heddiw (dydd Llun 23 Rhagfyr) cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o 14 mlynedd, yn Llys y Goron Casnewydd.
Lansiwyd yr ymchwiliad rhagweithiol yma gan ein tîm seiberdrosedd ym mis Ebrill pan gawsom ni wybodaeth bod Morris wedi cyrchu delweddau anweddus o blant ar-lein.
Wedyn gwnaethom weithredu gwarant yn ei eiddo yng Nglyn Ebwy ac atafaelu dyfeisiau digidol. Arweiniodd ein harchwiliad o’r dyfeisiau yma at ganfod dwy drosedd arall, gan gynnwys treisio dau o blant.
Meddai’r uwch swyddog ymchwilio, Ditectif Arolygydd Jamie Cooper:
“Rydyn ni’n croesawu’r ddedfryd a gafodd Morris gan y barnwr, er na all unrhyw ddedfryd byth ddileu’r trawma am oes a achosodd i’w ddioddefwyr a’u teuluoedd.
“Bydd Morris yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar yn awr, lle na fydd yn gallu peri perygl i blant a’r cyhoedd ehangach.
“Os ydych chi’n pryderu am eich meddyliau neu eich ymddygiad, neu feddyliau neu ymddygiad pobl eraill, ewch i wefan Lucy Faithful ‘Stop it Now’ i gael arweiniad. Os ydych chi eisiau riportio neu eisiau darllen mwy am gamdriniaeth ar-lein, ewch i’r wefan Child Exploitation and Online Protection.”
Gallwch riportio achosion o gamdriniaeth ar-lein, neu ymosodiad rhywiol ar ein gwefan, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101. Cofiwch, ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.