Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Byddai cyn swyddog heddlu, a gafodd ei ddisgrifio fel rhywun ‘ystrywgar’ a ‘chamdriniol’, wedi cael ei ddiswyddo’n ddirybudd oni bai ei fod wedi ymddiswyddo’n barod. Dyna oedd dyfarniad panel camymddwyn difrifol.
Nid oedd cyn Gwnstabl Heddlu Stephen Evans, a ymddiswyddodd o Heddlu Gwent ym mis Hydref, yn bresennol yn y gwrandawiad cyhoeddus dau ddiwrnod yng Nghwmbrân mewn cysylltiad â’i ymddygiad tuag at ‘Benyw A’ yn 2021.
Canfu ymchwiliad gan adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent bod y cyn swyddog wedi torri’r safonau ymddygiad proffesiynol yn ymwneud ag ‘awdurdod, parch a chwrteisi’, ‘ymddygiad annheilwng’ a ‘gonestrwydd ac uniondeb’.
Yn ei ddyfarniad, dywedodd y panel bod yr honiadau yn erbyn Evans am dorri awdurdod, parch a chwrteisi ac ymddygiad annheilwng wedi cael eu profi fel camymddwyn difrifol.
Serch hynny, canfu’r panel nad oedd ei ymddygiad yn torri’r safon gonestrwydd ac uniondeb.
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Nick McLain, cadeirydd y panel:
“Mae gweithredoedd y cyn swyddog yma’n wirioneddol warthus; nid yn unig roedd wedi cam-drin y dioddefwr yn gorfforol, roedd wedi ei cham-drin yn feddyliol hefyd.
“Roedd yn eithriadol o ystrywgar, ac roedd ei ymddygiad tuag at y dioddefwr yn fynych ac yn barhaus.
“Hoffwn ddiolch iddi am fod yn ddigon dewr i godi ei llais; mae ei dewrder yn riportio wedi caniatáu i ni gynnal y gwrandawiad yma a chymryd y camau gweithredu angenrheidiol.
“Er ei fod yn gyn swyddog, mae’n iawn ein bod ni wedi cynnal y gwrandawiad yma gan nad oes lle yn Heddlu Gwent i unrhyw un sy’n ymddwyn mewn ffordd mor ffiaidd.
“Mae’r cyhoedd, wrth reswm, yn disgwyl gwell gan ei swyddogion heddlu, ac rydym wedi dangos na fyddwn yn derbyn y rheini sy’n gweithredu i danseilio ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.”
Diswyddwyd y cyn swyddog yn ei absenoldeb a bydd yn cael ei osod ar restr y Coleg Plismona o swyddogion sydd wedi’u gwahardd yn awr.