Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Byddai cyn-heddwas gwirfoddol a fethodd brawf cyffuriau wrth wneud cais am swydd amser llawn wedi cael ei ddiswyddo ar unwaith pe na bai eisoes wedi ymddiswyddo.
Nid oedd Levi Gough, a arferai fod yn gwnstabl gwirfoddol gyda Heddlu Gwent, yn bresennol yn y gwrandawiad camymddwyn carlam cyhoeddus yng Nghwmbrân ddydd Iau 19 Rhagfyr.
Ar ôl gadael ei rôl ran-amser ym mis Tachwedd, roedd ymchwiliad dan arweiniad yr adran safonau proffesiynol yn honni bod Gough wedi torri'r safonau ymddygiad proffesiynol am ymddygiad annheilwng.
Yr honiad oedd bod Gough wedi profi'n bositif am gocên yn rhan o sampl a ddarparwyd yn y broses recriwtio i fod yn swyddog heddlu amser llawn.
Clywodd y gwrandawiad, ar ôl i’r sampl gwallt 3cm o hyd cyntaf brofi'n bositif am gocên a benzoylecgonine, cafodd ail sampl gwallt ei gyflwyno gan eto arwain at ddarlleniad positif ar gyfer y ddau gyffur.
Canfuwyd bod yr honiad wedi'i brofi yn y gwrandawiad, gan arwain at ddiswyddiad heb rybudd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Nick McLain, a gadeiriodd y panel:
"Ni allwn fod â phobl yn gweithio i Heddlu Gwent sy'n cam-ddefnyddio cyffuriau sy'n achosi cymaint o ddioddefaint yn ein cymunedau.
"Mae'r dystiolaeth yn ddiamheuol ac fe gafodd y ddau brawf positif eu gwirio gan weithiwr proffesiynol annibynnol sydd wedi'i hyfforddi'n feddygol.
"Mae ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol; ni all fod unrhyw esgus o gwbl i bobl sy'n gweithio ym maes plismona gymryd cyffuriau.
"Mae'r disgwyliad hwn yr un mor berthnasol i aelodau'r heddlu gwirfoddol ac mae ei ymddygiad wedi siomi'r bobl hynny, boed yn wirfoddolwr neu'n swyddog amser llawn, sy'n cadw'r cyhoedd yn ddiogel.
"Nid oes lle i yn ein sefydliad i bobl y mae eu gweithredoedd yn tanseilio ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu, felly dyma oedd y cam priodol i ni ei gymryd a pharhau â'r achos hwn.
"Fodd bynnag, mae'r ymchwiliad yn dangos y bydd ein proses recriwtio drylwyr yn nodi ac yn ein rhybuddio am bobl sy'n anghydnaws â rôl swyddog heddlu amser llawn."
Cafodd y cyn-swyddog ei ddiswyddo yn ei absenoldeb a bydd yn cael ei roi ar restr o swyddogion gwaharddedig y Coleg Plismona.