Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel heddlu, rydyn ni’n cydnabod bod dwyn o siopau a throseddau manwerthu yn gallu cael effaith ar ein cymunedau - ar unigolion a busnesau.
Nid yw dwyn, ac yn arbennig dwyn o siopau’n drosedd heb ddioddefwyr a byddwn yn gweithio gyda busnesau trwy gydol cyfnod y Nadolig i greu llefydd diogel i siopa, a lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’n hollbwysig bod pob achos o ddwyn o siopau’n cael ei riportio wrthym ni, er mwyn i ni weithredu.
Yn nwyrain yr ardal heddlu, sy’n cynnwys Casnewydd, rydyn ni wedi gweld lleihad o un mis i’r llall yn nifer y troseddau dwyn o siopau a gofnodwyd ym misoedd Awst, Medi a Hydref.
Bydd ein timau plismona cymdogaeth yn cynnal patrolau amlwg, yn arbennig yng nghanol trefi a pharciau manwerthu sydd fel arfer yn profi’r cynnydd mwyaf mewn troseddau manwerthu dros gyfnod yr Ŵyl.
Byddwn yn dal i roi cyngor atal trosedd defnyddiol i fusnesau ac yn targedu troseddwyr mynych a phenderfynol y mae eu hymddygiad yn achosi gofid ac yn effeithio ar ein manwerthwyr a’n cymunedau.
Meddai Uwch-arolygydd Jason White:
“Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn pobl sy’n cyflawni troseddau dwyn o siopau a throseddau manwerthu yn ein cymunedau.
"Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a busnesau i atal ac ymchwilio i droseddau dwyn o siopau.
“Mae cydweithredu’n allweddol wrth fynd i’r afael â dwyn o siopau ac mae ein ffigyrau diweddaraf y flwyddyn ariannol yma’n dangos ein bod yn cymryd mwy o gamau gweithredu yn erbyn mwy o bobl syn dwyn o siopau.
“Byddwn yn defnyddio tactegau cudd i dargedu troseddwyr ac yn defnyddio lluniau TCCC gan fusnesau a thechnoleg adnabod wynebau i gynorthwyo ein gwaith i adnabod pobl sy’n cyflawni troseddau manwerthu.”
Yng Ngwent, cofnodwyd 3,164 o droseddau dwyn o siopau hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol yma.
Fel heddlu, mae ein canlyniadau cadarnhaol o ran troseddau dwyn o siopau, sy’n cynnwys arestiadau, hysbysiadau a rhybuddion ymddygiad troseddol, wedi cynyddu 179 yn ystod y cyfnod yma.
Mae ein swyddogion yn cynnal nifer o stondinau cyngor atal trosedd trwy fis Rhagfyr, gan gynnwys:
Canolfan siopa Cwmbrân dydd Mawrth 3 Rhagfyr rhwng 10am a 2pm,
Canol y dref Caerffili dydd Gwener 6 Rhagfyr,
Campws Brynbuga Coleg Gwent dydd Iau 12 Rhagfyr rhwng 12pm a 3pm.
Meddai Uwch-arolygydd White:
“Rwyf eisiau annog pawb sy’n gweithio yn y sector manwerthu i barhau i riportio gweithgarwch troseddol. Mae’n bwysig eich bod chi’n riportio pob digwyddiad o ddwyn wrthym ni er mwyn i ni ymchwilio.
“Rwyf eisiau sicrhau busnesau a siopwyr ein bod ni’n gwrando ar eich pryderon.
“Er bod y ffigyrau ar gyfer dwyn o siopau yn ein hardal heddlu wedi cynyddu eleni, yn debyg i’r duedd ar draws y wlad, rydym wedi ymroi i wneud yn siŵr bod Gwent yn parhau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddynt yng Nghymru.”
I weld ein hawgrymiadau ar gyfer atal trosedd, ewch i: https://www.gwent.police.uk/cy-GB/cp/cyngor-atal-troseddau/dwyn-o-siopau/
erol, riportiwch wrthym ni drwy:
ffonio 101
anfon neges atom ni ar gyfryngau cymdeithasol
riportio ar-lein: https://www.gwent.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.