Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn rhan o ymdrech genedlaethol i ddwysau ymchwiliadau yn erbyn troseddwyr trefnedig, gwnaethom hefyd atafaelu chwe ffôn y credir eu bod yn gysylltiedig â llinellau cyffuriau, tua £35,000 mewn arian parod, cyffuriau dosbarth A a B , yn ogystal â chyllyll ac arf tanio ffug.
Rhwng dydd Llun 25 Tachwedd a dydd Sul 1 Rhagfyr, gweithredodd swyddogion nifer o warantau mewn adeiladau ledled Rhisga, Casnewydd, Blaenafon a Thredegar, ac arestio 16 o bobl ar amheuaeth o gyflawni troseddau gan gynnwys cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A, bod ag eiddo troseddol yn eu meddiant, a throseddau’n ymwneud ag ecsbloetiaeth.
Gwnaethom gynnal patrolau yng nghanol dinas Casnewydd a gorsafoedd rheilffordd Casnewydd a Chwmbrân hefyd i chwilio am blant mewn perygl o gael eu hecsbloetio a gwnaethom siarad ag oedolion mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol a’u recriwtio i linellau cyffuriau.
Yn ystod yr wythnos dangosodd swyddogion ein dull ‘atal yn gyntaf’ o ymdrin â’r broblem hefyd, gan siarad gyda rhyw 1,000 o ddisgyblion ledled Gwent am arwyddion ecsbloetiaeth troseddol, sut i gadw’n ddiogel, a phwy i fynd atynt os ydych chi’n pryderu am ecsbloetiaeth neu gangiau yn eich ardal.
Pythefnos cyn yr wythnos o weithredu rhoddodd swyddogion arweinydd gang troseddau trefnedig yn y carchar am dros wyth mlynedd ar ôl darganfod llinell yn rhedeg cocên rhwng Bryste ac Abertyleri.
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Matthew Sedgebeer:
“Rydyn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i darfu ar linellau cyffuriau a’u cau nhw i lawr, rhoi troseddwyr trefnedig yn y carchar, ac amddiffyn pobl agored i niwed.
“Mae’r model llinellau cyffuriau’n seiliedig ar ecsbloetiaeth plant ac oedolion agored i niwed gan droseddwyr didostur sydd ddim yn poeni am ddim byd ond gwneud arian ar draul y gofid a achosir gan gyflenwi cyffuriau.
“Mae’r rhai sy’n cael eu hecsbloetio’n cael eu dal mewn bywyd o drais, paranoia, dibyniaeth a chaethwasiaeth oherwydd dyledion.
“Bydd Gwent yn parhau i fod yn lleoliad digroeso i droseddwyr trefnedig, lle bydd ein swyddogion yn gweithio’n ddi-baid nes bydd y rheini sy’n gyfrifol am gyflenwi cyffuriau, trais ac ecsbloetiaeth yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd.”
Model dosbarthu cyffuriau’n defnyddio ffonau symudol yw llinellau cyffuriau, lle mae cyffuriau’n cael eu symud o ddinasoedd mawr i ardaloedd eraill, yn aml yn defnyddio plant ac oedolion agored i niwed.
Mae llinellau cyffuriau’n gallu digwydd yn lleol yn ogystal â ledled y Deyrnas Unedig, heb fod angen teithio unrhyw bellter penodol.
Mae ecsbloetio plant ac oedolion agored i niwed, sy’n aml yn cael eu defnyddio i gario cyffuriau o un ardal i un arall, yn ganolog i’r model. Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio weithiau i fynd â chyffuriau at y prynwr, sy’n aml yn eu rhoi nhw yng nghanol sefyllfaoedd bygythiol neu dreisgar.