Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ers 2022, mae gwasanaethau heddlu ledled y Deyrnas Unedig wedi cynnal gweithgarwch diogelwch ar y ffyrdd ychwanegol yn rhan o Ymgyrch Limit.
Mae ein swyddogion plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol (RPSO) yn gweithio gydol y flwyddyn i gymryd camau yn erbyn y rheini sy'n rhoi modurwyr a cherddwyr mewn perygl ar ein ffyrdd.
Serch hynny, rhoddir pwyslais arbennig ar gyfnod y Nadolig gan fod pobl yn fwy tebygol o fod allan yn dathlu ac yn gyrru’n fwy rheolaidd i ymweld â'u hanwyliaid.
Meddai Uwch-arolygydd Ryan Francis:
"Gallai pobl sy'n gyrru dan ddylanwad diod a chyffuriau fod y rheswm pam fod gan deuluoedd un person yn llai o gwmpas y bwrdd y Nadolig yma.
“Dros y penwythnos diwethaf, pan oedd amodau gyrru'n arbennig o beryglus oherwydd y tywydd, arestiodd swyddogion 13 o bobl ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
"Mae'n anhygoel bod rhai pobl yn dal i feddwl bod gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau’n dderbyniol. Does byth dim cyfiawnhad dros wneud hynny.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl rhag canlyniadau dinistriol ymddygiad mor anghyfrifol a difeddwl, a bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn gyrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau'n cael ei arestio a'i ddwyn gerbron y llys.
"Rwy'n crefu ar bob modurwr i wneud y peth iawn - dydyn ni ddim eisiau rhwystro pobl rhag mwynhau eu hunain ond os ydych chi'n yfed, trefnwch lifft adref gan nad yw gyrru eich hun werth y risg."
Yn genedlaethol, amcangyfrifir bod 1,920 o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn 2022 mewn gwrthdrawiadau lle'r oedd gyrru dan ddylanwad alcohol yn ffactor.
Y mis yma, bydd ein hymgyrch yn defnyddio amrywiaeth o dactegau, o wiriadau statig ar ochr y ffordd i waith sy'n cael ei arwain gan gudd-wybodaeth yn canolbwyntio ar y rheini sy'n peri'r perygl mwyaf ar y ffyrdd trwy eu hymddygiad.
Yn ogystal â chynnal gweithrediadau rhagweithiol, bydd swyddogion hefyd yn codi ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau'r pedwar ffactor sy'n cyfrannu fwyaf at wrthdrawiadau - gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, defnyddio ffôn symudol, goryrru, a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Ydych chi'n pryderu bod rhywun yn gyrru dan ddylanwad?
Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn cyflawni trosedd gyrru, gan roi ei hun a phobl eraill mewn perygl, yn wynebu camau gweithredu pellach.
Os gwelwch chi rywun yn gyrru'n beryglus, riportiwch ar ein gwefan, ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, neu ffoniwch 101.
Yn 2023, derbyniodd Crimestoppers dros 45,000 o adroddiadau dienw am bobl sy'n gyrru'n rheolaidd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Os oes well gennych chi riportio'n ddienw, gallwch ffonio 0800 555 111.
Gallwch gyflwyno tystiolaeth o yrru gwrthgymdeithasol hefyd, trwy waith Heddlu Gwent a'r bartneriaeth camerâu diogelwch, GanBwyll.
Darllenwch fwy yma.