Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd swyddogion arbenigol â’r tîm plismona cymdogaeth ym Mhilgwenlli, Casnewydd, i chwilio am arfau ddydd Llun 25 Tachwedd.
Chwiliodd swyddogion y cloddiau, prysgwydd, dodrefn stryd, traeniau a chwteri ar hyd Francis Drive, ac atafaelu dwy gyllell a llif llaw a oedd wedi cael eu cuddio neu eu taflu i ffwrdd.
Roedd hyn yn dilyn cyrch cyllyll yng nghanol y dref Cwmbrân ac o amgylch lle atafaelodd swyddogion arbenigol bedair cyllell ddydd Mercher 13 Tachwedd.
Mae’r ddau chwiliad yn rhan o Ymgyrch Sceptre, ymgyrch barhaus Heddlu Gwent i fynd i’r afael â throseddau cyllyll a thrais difrifol.
Yr wythnos ddiwethaf ym Mhilgwenlli, gyda chymorth staff Cyngor Dinas Casnewydd, gwnaethom ddefnyddio codwyr traeniau, magnet, datguddiwr metel, ysgolion, tortshis, polion a phladuriau llaw i chwilio’n drwyadl am eitemau llafnog.
Meddai Rhingyll Katie Dugmore, a arweiniodd yr ymgyrch ym Mhilgwenlli:
"Cynhaliodd ein tîm chwiliad manwl o ardal Francis Drive gyda’r nod o waredu unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio fel arf.
"Yn defnyddio tactegau arbenigol, gwnaethom atafaelu dwy gyllell, a llif llaw a oedd wedi cael eu cuddio yn ardal Francis Drive.
"Mae ymgyrchoedd fel yr un yma’n ein helpu ni i atal ymosodiadau difrifol a throsedd treisgar yn y gymuned leol."
Meddai Cwnstabl Heddlu Kieron Gibbs, rheolwr ward cymdogaeth Pilgwenlli:
“Yn ogystal â rhoi sicrwydd gweladwy i’r cyhoedd, gwnaethom siarad gyda phreswylwyr ac esbonio peryglon cario cyllell.
“Mae gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae i fynd i’r afael â throseddau cyllyll yn ein cymunedau, a gofynnaf yn daer ar breswylwyr i gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw, er mwyn i ni allu gweithredu.
"Rwyf eisiau tawelu meddyliau preswylwyr ein bod ni’n cymryd troseddau cyllyll o ddifrif ac yn rhoi sylw i unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.
"Mae pob cyllell rydyn ni’n ei chymryd oddi ar y stryd yn golygu y gallai bywyd arall gael ei achub.”